Dros gyfnod o 25 mlynedd a mwy, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector gyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol.
Wrth ystyried persbectif tymor hir yn y gymuned a darparu atebion twf cynaliadwy mae’r Fenter yn creu ac yn cynnyddu cyfleoedd ar draws pum prif sector:
CADWRAETH A’R AMGYLCHEDD
CONSERVATION AND ENVIRONMENT
BWYD ACAMAETH
AGRICULTURE AND FOOD
CYMUNEDAULLEWYRCHUS
PROSPEROUS COMMUNITIES
YNNIADNEWYDDADWY
RENEWABLEENERGY
TECHNOLEGA BUSNES
TECHNOLOGY AND BUSINESS
Cadwraeth a’r Amgylchedd
Mae gan Menter Môn brofiad helaeth mewn gwrachod cynefinoedd naturiol a rhywogaethau brodorol. Mae ein partneriaethau gyda chymunedau yn annog perchnogaeth leol, yn cryfhau perthynas pobl a’u hamgylchedd lleol, ac yn sicrhau buddion iechyd i’r gymuned yn ogystal â buddion cadwraeth i’r amgylchedd.
Bwyd ac Amaeth
Mae Menter Môn yn falch o gefnogi ffermwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr bwyd gan ddatblygu cadwyni bwyd lleol a rhanbarthol er mwyn ychwanegu gwerth at y cynnyrch. Rydym yn annog arloesedd trwy fabwysiadu dulliau newydd o gynhyrchu bwyd, gan sicrhau bod cynhyrchwyr mor gystadleuol â phosib mewn byd sydd yn newid yn gyflym.
Cymunedau Llewyrchus
Mae gweld cymunedau yn llwyddo wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Rydym yn helpu creu cymunedau llewyrchus gyda’r Gymraeg yn ffynnu, amgylchedd iach, swyddi o safon uchel i bobl ifanc talentog, a chymunedau sy’n dod ynghyd i ymateb i heriau maen nhw’n eu hwynebu a chefnogi mentrau ar gyfer siapio dyfodol ein cymunedau.
Ynni Adnewyddadwy
Dewch i wybod mwy am sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy Menter Môn yn cyd-fynd â’n hymdrechion cadwraeth amgylcheddol, gan gyfrannu at warchod y blaned a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.
Economi
Mae arloesedd yn ganolog i’r holl waith rydym ni’n ei wneud ym Menter Môn. Rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy’n cychwyn ar eu taith fusnes. Rydym yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru ac mae gennym ein Hwb Menter ein hunain i gefnogi entrepreneuriaeth a darparu’r sgiliau cywir er mwyn i fusnesau gyrraedd eu nod. Rydym yn weithgar mewn meysydd twf o fewn yr economi megis technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaeth – ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau rhanbarthol i ddatblygu a chryfhau ein cymunedau a sicrhau llwyddiant.