Ynni

Dewch i wybod mwy am sut mae prosiectau ynni adnewyddadwy Menter Môn yn cyd-fynd â’n hymdrechion cadwraeth amgylcheddol, gan gyfrannu at warchod y blaned a’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Rydym yn gweithio ar greu ynni glân, hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a manteision i gymunedau.

Economi

Mae Menter Môn yn hyrwyddo mentergarwch trwy gynnig arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddarpar berchnogion busnes. Mae ein hymrwymiad i arloesi yn amlwg yn ein hymwneud â sectorau ffyniannus megis technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, a bwyd ac amaethyddiaeth.

Cymuned

Mae gweld cymunedau yn llwyddo wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Rydym yn helpu i greu cymunedau llewyrchus gyda’r Gymraeg yn ffynnu. Ein nod yw i gael amgylchedd iach, swyddi o safon uchel i bobl ifanc talentog, a chymunedau sy’n ymateb i heriau maen nhw’n eu hwynebu. Rydym yn cefnogi mentrau ar gyfer siapio dyfodol ein cymunedau.

 
 
 
 

Dadgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau.

Dros gyfnod o 25 mlynedd a mwy, mae Menter Môn wedi cydweithio â busnesau, cymunedau, y sector gyhoeddus ac unigolion er mwyn cyflawni prosiectau ystyrlon ac arloesol ledled Gogledd a Gorllwein Cymru. Mwy…

Prif Feysydd Ein Gweithgarwch

Wrth ystyried persbectif tymor hir yn y gymuned a darparu atebion twf cynaliadwy mae’r Fenter yn creu ac yn cynyddu cyfleoedd ar draws y prif sectorau canlynol:

 
 
 
 

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233