Mae Morlais a’r Hwb Hydrogen yn ddau gynllun ynni uchelgeisiol, ond dydi hyn ddim yn tynnu ein sylw oddi ar yr angen i weithredu ar lefel gymunedol.

Engraifft o hynny oedd y cynllun llogi ceir trydan cymunedol. Gyda budd amlwg i’r hinsawdd roedd y ceir hefyd yn dangos gwir botensial cerbydau trydan ac yn cyflwyno trigolion i fath gwahanol o danwydd i yrru cerbydau.

Yn brosiect dwy flynedd dan faner Arloesi Gwynedd Wledig roedd y ddau gar – Carwen a Carwyn – wedi eu lleoli ym Mhenygroes a Llanaelhaearn ac ar gael i bobl eu llogi am gyn leied a £3 yr awr. Roedd y cynllun yn treialu system
o rannu ceir mewn ardal wledig i helpu pobl sydd wedi eu hynysu neu heb gar eu hunain. A chyda thîm o yrwyr gwirfoddol roedd y ceir hefyd ar gael i bobl nad oeddent yn gyrru.

Mae ceir trydan yn llawer mwy effeithlon na cheir sy’n defnyddio petrol neu ddisel, ac yn gallu cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy carbon isel. Drwy roi cyfle i bobl roi cynnig ar gar trydan eu hunain, roedd y prosiect am brofi bod posib defnyddio car trydan o ddydd i ddydd a’i fod yn ddewis amgen ymarferol i gar disel neu betrol.

Roedd y ceir yn boblogaidd iawn ac yn cael defnydd cyson. Yn ystod y pandemig roedd y cerbydau yn cael eu defnyddio gan wirfoddolwyr i fynd â phobl i apwyntiadau meddygol, i siopa ac i ddanfon nwyddau meddygol hanfodol i drigolion bregus yng Ngwynedd.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233