Un o’r cynlluniau y mae Menter Môn yn fwyaf balch ohono yw Llwyddo’n Lleol 2050. Mae’n cwmpasu nifer fawr o werthoedd y sefydliad – o ddarparu cyfleodd i bobol ifanc, i hybu entrepreneuriaeth a diogelu’r Gymraeg.

Mae’n brosiect unigryw sy’n rhoi hwb i bobl ifanc wrth iddynt fentro i fyd gwaith a busnes

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 yn cael ei redeg gan Menter Môn ers 2020. Prif nod y cynllun yw herio’r dybiaeth fod rhaid gadael ardal wledig i lwyddo a dangos i bobl ifanc sy’n ystyried eu dyfodol bod cyfleodd ar gael yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r pwyslais ar entrepreneuriaeth, cyflogadwyedd, a datblygu sgiliau proffesiynol. Ond, gyda blaenoriaethau wedi newid yn sgil Covid19 mae neges glir hefyd bod ffordd o fyw yn bwysig a bod hon yn ardal ddelfrydol i sicrhau’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Yn rhy aml mae’n pobl ifanc yn meddwl bod rhaid iddyn nhw adael eu milltir sgwâr i lwyddo ym myd gwaith neu fusnes. Mae hyn yn golled i’n cymunedau gwledig ac mae’r sgil effaith ar y Gymraeg a’r economi yn sylweddol.

Mae neges Llwyddo’n Lleol yn syml – mae llawer o gyfleodd ar gael yma yng ngogledd Cymru ac mae cefnogaeth a chyngor ar gael drwy’r cynllun i wireddu uchelgais a syniadau. Trwy hyfforddiant a chynnig profiad gwaith mae nifer o bobl eisoes wedi bod trwy’r cynllun ac wedi llwyddo i gael swydd yn yr ardal neu sefydlu busnes. Ymysg ‘graddedigion’ Llwyddo’n Lleol mae Coffi Dre, cwmni smwddis Swig, Llaeth Medra a chwmni ‘Arwyddo’. Sefydlwyd y cynllun fel rhan o raglen Arfor Llywodraeth Cymru.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233