Nod cynllun Môn a Menai yw hybu llesiant cymunedol trwy wella mannau gwyrdd yn y cymunedau hynny.
Mae’n gynllun cyfredol a byddwn yn gweithio gyda hyd at 10 o gymunedau yn Ynys Môn ac Arfon yng Ngwynedd. Byddwn yn trawsnewid ardaloedd preswyl i fod yn llefydd mwy deniadol a brafiach i fyw a gweithio ynddynt ac i ymweld â nhw.
Mae’r prosiect yn cefnogi’r gwaith o wella’r amgylchedd trwy weithgaredd gwirfoddolwyr a lleoliadau gwaith i bobl ifanc di- waith rhwng 16-24 oed. Y gobaith yw y bydd y cynllun nid yn unig yn adfer mannau gwyrdd yn y deg ardal ond hefyd yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr i bobol yn y sector amgylcheddol.
Yn y pen draw rydym am weld y cymunedau yn gwella cyflwr eu hamgylchedd lleol, wrth ddatblygu gwerthfawrogiad o’r ardal a chryfhau’r cysylltiad gyda byd natur. Yn sgil hyn daw budd i fioamrywiaeth hefyd a chyfle i drigolion fwynhau eu cymunedau.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu trwy Gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru Llywodraeth Cymru (ENRaW).