Cynllun oedd yn ceisio dangos potensial gyrfa ym maes STEM i ddisgyblion oedd yr Academi Dronau. Dyma gynllun oedd yn rhoi cyfle i bobl ifanc brofi rhaglenni STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg) yn y byd go iawn dan oruchwyliaeth yr arbenigwyr dronau lleol, Aerialworx.

Cafodd disgyblion eu recriwtio i’r Academi Dronau o ysgolion uwchradd ac roedd y rhaglen yn cynnwys sesiynau ymarferol a theori oedd yn annog gwaith tîm, meddwl yn feirniadol, a bod yn greadigol. Drwy’r Academi, dysgodd y grŵp sut i adeiladu a defnyddio dronau, gyda’r sesiynau yn ymdrin â phopeth o raglennu ac adeiladu dyfeidiadau, i ddosbarthiadau hedfan.

Aaron Morris oedd yn gyfrifol am redeg y prosiect ar ran Menter Môn. Mae’n egluro: “Roedden ni’n awyddus i ddangos i’r bobl ifanc y gwahanol gyfleoedd gyrfa sydd ar gael iddyn nhw wrth astudio pynciau STEM ac, yn bwysig iawn, bod y cyfleoedd hyn hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, roedden ni yn awyddus i roi Môn a Gwynedd ar y map yn nhermau datblygiadau digidol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn sector sy’n parhau i dyfu.”

Un agwedd bwysig ar y prosiect oedd gweithio mewn partneriaeth â chwmni dronau ym Môn, Aerialworx, arbenigwyr byd-eang mewn ffilmio gyda dronau ar gyfer cynyrchiadau teledu a ffilm. Mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yn Gaerwen, yn gweithredu ar draws y byd ac wedi gweithio ar raglenni proffil uchel fel Doctor Who, Hunted a Strictly Come Dancing yn ogystal â nifer o gynyrchiadau Netflix a National Geographic. Mae Stefanie Williams, perchennog Aerialworx yn siarad Cymraeg ac yn dod o Gaernarfon, ac roedd hi’n awyddus i weithio gyda Menter Môn i hyrwyddo’r cyfleoedd gyrfa sy’n gysylltiedig â thechnoleg er mwyn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o beilotiaid drôn.

Roedd yr adborth gan y grŵp ifanc yn hynod o gadarnhaol. Dywedodd bob un o’r myfyrwyr eu bod wedi mwynhau’r profiad a’i fod wedi agor eu llygaid i sector na fyddent wedi’i ystyried fel gyrfa yn y dyfodol, fel arall.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233