Mae’r Silver Slashers yn enghraifft wych o grŵp gwirfoddoli hunangynhaliol sy’n gweithio i wella llwybrau cyhoeddus ar, ac o amgylch, Ynys Môn. Maent wedi ymgymryd â amrywiol waith o gynnal a chadw llwybrau cyhoeddus ar yr ynys dros y deng mlynedd diwethaf ac maent yn parhau i wneud hynny yn wythnosol. Erbyn hyn mae ganddynt berthynas waith lwyddiannus gyda Thim Hawliau Tramwy, Cyngor Sir Ynys Môn.
Un o’r prif heriau sy’n wynebu’r grŵp yw recriwtio gwirfoddolwyr iau, gan mai oedran cyfartalog y grŵp ar hyn o bryd yw 74.
Gwahoddywyd Cwlwm Seiriol i dreulio diwrnod gyda’r grwp yn ystod un o’u diwrnodau gwirfoddoli yn 2018 i ddysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud, yr unigolion dan sylw ac i ddysgu beth sy’n eu cymell i ymgymryd â’r gwaith.
Y nod fyddai creu grwp grŵp tebyg o fewn Cwlwm Seiriol, gan ail-greu model y Silver Slashers. Yn ystod 2019, byddwn hefyd yn anelu at weithio gyda’r grŵp ar waith cynnal a chadw yn ward Seiriol, gyda’r nod o recriwtio mwy o wirfoddolwyr.