Yn 2019 derbyniodd tref Biwmares statws di-blastig gan elusen forol flaenllaw. Dyma’r dref gyntaf ar Ynys Môn i wneud hynny.

Ond dim ond rhan o’r stori oedd hynny ac mae’n ganlyniad o waith caled dros gyfnod gan nifer o drigolion a busnesau lleol a chefnogaeth LEADER trwy Arloesi Môn.

Creu Biwmares di-blastig – dyna oedd y nod pan lansiwyd y prosiect. Daeth nifer o fusnesau lleol at ei gilydd er mwyn cael gwared ar blastig a cheisio chware rhan wrth amddiffyn yr amgylchedd yn lleol.

Gyda thua 7.7 biliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio bob dydd a chynnydd mewn ymwybyddiaeth am y niwed all plastig achosi i fywyd gwyllt, roedd y gwirfoddolwyr yn awyddus i wneud safiad. A chydag Ynys Môn y sir gyntaf yng Nghymru i dderbyn ‘statws cymuned di- blastig’ y gobaith oedd y byddai’r fenter yn gallu atgyfnerthu hynny yn ogystal ag anfon neges glir i bobl am yr angen i ail ddefnyddio ac ail lenwi.

Wrth edrych yn ôl ar y gwaith dywedodd Gwen Evans Jones, cadeirydd y grŵp gweithredu lleol ar y pryd: “Mae pawb yn llawer mwy ymwybodol erbyn hyn o’r niwed y mae plastig yn achosi – ac mae’n fater o gryn bryder. Roedden ni’n awyddus i wneud gwahaniaeth yma, a gwneud y byd yn le gwell i genedlaethau’r dyfodol. Gobeithio y bydd ein gwaith ni yn ein tref ni yn ysbrydoli cymunedau eraill ar draws yr ynys i gymryd yr her ac ymuno â ni.”

Roedd Menter Môn trwy Arloesi Môn yn falch iawn o allu bod yn rhan o’r cynllun a’r nod o geisio sicrhau’r statws di-blastig. Fel sefydliad a chyda cefnogaeth partneriaid rydym yn ceisio mynd i’r afael ar yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau ar yr ynys – a dyna yn union oedd y cynllun hwn ym Miwmares yn ei wneud.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233