Cefndir prosiect Dark Sky Menter Môn, Argo Navis
Yn 2016 a 17 gweithiodd Menter Môn gyda busnesau twristiaeth Ynys Môn i hyrwyddo cyfleodd Awyr Dywyll a arweinwyd at ffurfio Rhwydwaith Awyr Dywyll Môn.
Fel rhan o’r fenter hon trefnwyd digwyddiad busnes i ddysgu am Awyr Dywyll ac i rannu gwybodaeth am ddefnyddio’r wybodaeth honno i ddenu ymwelwyr newydd i Ynys Môn, hefyd fe drefnwyd dau ddigwyddiadau cyhoeddus, Digyddiad Hirddydd yr Haf, yn syllu ar yr haul ar Faes Sioe Amaethyddol Môn a phrofiad Burddydd y Gaeaf yn Tyddyn Môn.
Arweiniodd y profiadau hyn at rannu gwybodaeth ag ardaloedd eraill yr UE a pheilot Argo Navis – Dilyn y Sêr.
ARGO NAVIS – CANLYN Y SÊR – PROSIECT TRAWSWLADOL LEADER
Yn ystod cynhadledd LINC a gynhaliwyd yn Y Ffindir yn 2018 (y diben oedd rhyngweithio gyda gwledydd eraill yr UE a hyrwyddo cydweithredu trawswladol), cyfarfu Menter Môn a chynrychiolwyr Grŵp Gweithredu Lleol Ynys Môn gyda chynrychiolwyr o Lithwania ac Awstria, a arweiniodd at ymweliadau cyfnewid gyda’r ddwy wlad. Ymwelodd dau aelod o staff a dau fusnes o Ynys Môn â Lithwania yn 2018, ac ymwelodd dau aelod o staff, un o Fôn ac un o Wynedd, ag Awstria yn 2019, a bu cynrychiolwyr o Lithwania ac Awstria yn ymweld ag Ynys Môn a Gwynedd yn 2019.
Yn 2019 hefyd, yn ystod ymweliad prosiect ag Awstria, fe wnaethom ni gyfarfod â dirprwyaeth o Estonia ac roeddem yn falch o gael croesawu partner newydd i’n prosiect Argo Navis.
Yn ystod yr ymweliadau pwysig hyn, gwelwyd dealltwriaeth gynyddol o lefel y datblygiad ym mhob ardal ac mewn sectorau penodol, ac roedd hi’n amlwg bod cyfle i ddysgu gan ein gilydd. Penderfynwyd ymweld â phob ardal, a Menter Môn oedd y corff arweiniol, gyda’r nod o ddatblygu prosiect a fyddai’n gysylltiedig ag Awyr Dywyll a’r cyfleoedd y byddai hynny’n eu dwyn i bob ardal.
Daeth yn glir bod pob ardal yn wynebu materion tebyg:
- Colli pobl ifanc
- Dirywiad mewn twristiaeth o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd,
- Angen i ystyried marchnadoedd newydd sy’n ymddangos,
- Natur wledig a thir heriol
Felly, canolbwyntiodd pob ardal ar y maes yr oeddent yn dymuno ei harchwilio a’i datblygu:
Mae Lithwania yn canolbwyntio ar ddatblygu:
- Diwydiannau cartref ym maes bwyd a chrefft
- Mentrau datblygu cymunedol, gan ganolbwyntio ar bobl ifanc
- Creu a marchnata llwybr clwstwr o fusnesau ac atyniadau naturiol gyda’r nod o becynnu a gwerthu profiadau i ymwelwyr
Mae Awstria yn canolbwyntio ar fentrau sy’n helpu i fynd i’r afael â:
- Newid yn yr hinsawdd a thwristiaeth
- Mewnfuddsoddiad (seilwaith)
- Cadw pobl ifanc trwy gyfrwng prosiect ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg ddigidol
Mae’r angen i ddatblygu, gwella ac ychwanegu gwerth i’w pwynt gwerthu unigryw yn gyffredin ymhlith y bedair ardal, ac wrth gwrs, maent oll yn gysylltiedig ar lefel fyd-eang gan yr Awyr Dywyll.
Mae Ynys Môn a Gwynedd wedi peilota mentrau Awyr Dywyll a buont yn llwyddiannus yn y ddwy ardal, fodd bynnag, ceir angen pellach i ddatblygu a pheilota gweithgareddau ychwanegol sy’n gwella ac sy’n ychwanegu gwerth i’r hyn y gall pob ardal ei chynnig.
Ym mis Medi 2020, cymeradwywyd Prosiect ar y Cyd rhwng Cymru (Ynys Môn a Gwynedd), Lithwania, Awstria ac Estonia a oedd yn seiliedig ar Thema Awyr Dywyll, newid yn yr hinsawdd, digidol, gwyddoniaeth, twristiaeth a busnes.
Cytunwyd y bydd ymrwymiad i weithio yn unol â’r thema hon yn galluogi pob ardal i ddarparu eu cryfderau eu hunain trwy gyfrwng gwahanol weithgareddau, ond gan gyfrannu at thema gyffredinol Awyr Dywyll. Bydd hyn yn galluogi pob partner i rannu a dysgu o amrywiaeth o wahanol weithgarwch sy’n cynnig manteision cadarnhaol i bob rhanbarth.
Bydd y peilot yn darparu’r canlynol:
- Bydd pob ardal yn trefnu sesiwn i godi ymwybyddiaeth o Awyr Dywyll a llygredd golau,
- Bydd pob ardal yn sefydlu Academi Awyr Dywyll
Bydd Ynys Môn yn ystyried mentrau er mwyn gweithio gyda busnesau lleol i feithrin eu gwybodaeth am Awyr Dywyll, yr amgylchedd naturiol a sut y gallant ddefnyddio hwn er mwyn cynyddu busnes. Yn ogystal, darparu calendr o ddigwyddiadau a fydd yn annog ymwelwyr i ymweld ag ardaloedd ‘Awyr Dywyll’ mewndirol, a bydd yn gweithio gyda chlwstwr o fusnesau/mentrau cymdeithasol yn Ne-Orllewin yr ynys (Niwbwrch ac ati) ac yn y Gogledd-Ddwyrain, Caergybi i Foelfre. (yn gysylltiedig gyda Ffordd Cymru)
Bydd Academi Awyr Dywyll Ynys Môn yn gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc er mwyn dysgu a rhannu gwybodaeth gydag eraill am bwysigrwydd Awyr Dywyll a ffyrdd y gellir lliniaru’r newid yn yr hinsawdd gymaint ag y bo modd.
Bydd Gwynedd yn gweithio gydag Ynys Môn ar weithgarwch hyrwyddo a dysgu ar y cyd, gan gynnwys ysgolion a busnesau lleol. Mae rhywfaint o waith eisoes wedi cael ei wneud, wrth arddangos byrddau poster o blanedau mewn rhai cymunedau, gan weithio gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ynghylch codi ymwybyddiaeth a datrysiadau digidol ym maes ffermio. Bydd y profiad hwn yn caniatáu mentrau pellach o fewn y sectorau ffermio, realiti rhithwir, a bwyd, yn enwedig cynhyrchu bwyd, y maent oll yn gysylltiedig ag Awyr Dywyll. Bydd Gwynedd yn annog busnesau sydd eisoes yn gweithio ar beilot Gwyliau Araf i ymgysylltu gyda’r prosiect, gan ychwanegu gwerth i’r hyn y maent yn ei gynnig eisoes trwy ddefnyddio Awyr Dywyll fel adnodd er mwyn marchnata cynnyrch.
Bydd Awstria yn gweithio gyda’i phobl ifanc i ymgysylltu gyda gwyddoniaeth, a bydd yn ceisio adeiladu nifer (i’w gadarnhau) o delesgopau a fydd yn cael eu galluogi gan y We. Pan fyddant yn eu lle, gellir amserlennu’r rhain trwy wefan i dynnu llun astronomegol gan aelodau’r cyhoedd, a chyfrannu at ddefnyddio Awyr Dywyll fel ffordd o annog twristiaeth yn y rhanbarth hon o Awstria. Yn ogystal, bydd Awstria yn Cysylltu gyda mewnfuddsoddiad trwy geisio sicrhau rhyngweithio gyda darpar bartneriaid masnachol/diwydiant y gallent gael budd o weithgarwch awyr dywyll (sector optegol ac ati)
Mae gan Lithwania ei Harsyllfa ei hun https://www.itinari.com/take-a-look-intothe-lithuanian-sky-at-mol-tai-astronomical-observatory-3pf3, fodd bynnag, mae’n addysgol iawn ac yn eiddo i’r Brifysgol yn Vilnius. Felly, bydd LAG Utenos yn ceisio Arddangos a hyrwyddo’r Awyr Dywyll trwy ddefnyddio eu cnyciau hanesyddol er mwyn annog cymunedau i drefnu “Gwyliau Gwylio’r Sêr” a fydd yn cynnwys cynhyrchwyr bwyd a chrefftau lleol – a’u rhannu ar gyfryngau cymdeithasol byw ac annog twf ym maes twristiaeth a fydd yn gysylltiedig gyda hyrwyddo Awyr Dywyll.
Bydd Gogledd-Orllewin Estonia yn darparu nifer o weithgareddau cysylltiedig:
- Gwyddoniaeth/addysg – Mae arsyllfa newydd y rhanbarth yn cynnig cyfle da i boblogeiddio gwyddoniaeth ymhlith pobl ifanc yn y rhanbarth. Cynhelir darlithoedd ac ymweliadau â’r arsyllfa yn ystod y prosiect.
- Twristiaeth/marchnata lleol – yng ngogledd-orllewin Estonia fel ardal wledig, ceir cyfleoedd gwych i fwynhau’r awyr dywyll ar y tir ac yn y dŵr. Mae’r awyr dywyll yn golygu bod modd cynnig gwasanaethau cyffrous, gan ymestyn y tymor twristiaeth i breswylwyr ac ymwelwyr yr ardal. Teithiau rafft ysgafn, teithiau llusern, sinema gyda’r hwyr a theithiau eraill ar lwybrau cerdded pan fydd hi’n dywyll ac ati yn cael eu cyfuno gennym dan un to marchnata.
- Bwyd lleol – mae’r bwyd o ogledd-orllewin Estonia yn fwyd blasus ac o ansawdd uchel, ond nid yw’n adnabyddus iawn. Byddwn yn cyflwyno sêr bwyd Gogledd-orllewin Estonia ar y teledu ac ar gyfryngau cymdeithasol gyda helpu sêr coginio a sêr eraill y rhanbarth.
https://www.facebook.com/urvvg
NODAU ARGO NAVIS:
Nod y prosiect yw cyflawni’r Amcanion Strategol canlynol:
SOI – sicrhau gwerth economaidd uwch i weithredwyr lleol sy’n gysylltiedig gyda llwybr yr arfordir – trwy gyfrwng gweithgarwch marchnata a chyfeirio ar y cyd – trwy gysylltu mentrau Awyr Dywyll gyda’r arfordir a’i atyniadau amgylcheddol a hanesyddol, gyda’r cyfleoedd i sicrhau twf economaidd ar gyfer ardaloedd mewndirol yn yr holl ardaloedd partner,
SO2 – Datblygu cyfleoedd busnes newydd a rhagor ohonynt i bobl leol trwy gyfrwng arallgyfeirio – ychwanegu gwerth i weithgareddau sy’n gysylltiedig â’r tywydd megis sgïo, i wyliau Gwylio’r Sêr a digwyddiadau,
SO3 – Meithrin mwy o gyfranogiad a manteisio ar farchnadoedd treftadaeth a thwristiaeth sy’n bodoli eisoes mewn ardaloedd ynysoedd canolog – trwy gysylltu gyda a chreu dehongliad Awyr Dywyll o ansawdd uchel sy’n gallu cynnig budd i bob sector, o Wely a Brecwast i fwyd a gweithgareddau,
SO4 – Sicrhau mwy o gyfranogiad mewn marchnadoedd twristiaeth yn ystod yr adeg dawel o’r flwyddyn wrth i fusnesau newydd a busnesau sy’n bodoli eisoes gydweithio gyda chymuned o ddiddordeb – trwy greu cynnwys Awyr Dywyll tymhorol da a thargedu’r demograffig cywir er mwyn annog ymweliadau yn ystod yr adeg dawel o’r flwyddyn gydag ardaloedd o arwyddocâd hanesyddol ac amgylcheddol.
SO5 – Cynyddu gweithgarwch ymgysylltu gyda chyfranogiad gan a budd i fusnesau twristiaeth trwy ychwanegu gwerth i gymwysiadau digidol sy’n bodoli eisoes a chreu rhai newydd – trwy gyflwyno technolegau digidol newydd e.e. telesgopau cyhoeddus sy’n gysylltiedig gyda Gwe-gamerâu,
SO8 – Sicrhau bod holl ieithoedd y partneriaid yn cael eu clywed a’u gweld yn y gymuned a’r gweithle – trwy baratoi cynnwys amlieithog ar gyfer y prosiect hwn ac annog y gymuned i wneud defnydd o’r ieithoedd hyn wrth ddelio gyda phobl leol ac ymwelwyr â’r ardal o ddydd i ddydd,
SO9 – Cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer entrepreneuriaeth newydd a dynameg cyflenwyr a phrosesu lleol gwerth ychwanegol yn y sectorau bwyd a chrefft – trwy rannu a dysgu gan yr holl bartneriaid,
SO10 – Datblygu’r agenda bwyd artisan, gan gysylltu’n benodol gydag ychwanegu gwerth i gynnyrch crai a bwydydd arbenigol sy’n targedu gweithio gydag entrepreneuriaid sy’n fenywod a gweithio gyda charfan wedi’u hallgáu yn gymdeithasol – yn y sector bwyd a’r sector marchnadoedd datblygol,
SO11 – Bwrw ymlaen gyda datblygiad cynhyrchion sy’n ychwanegu gwerth i economïau partneriaid trwy arallgyfeirio dewisiadau cynhyrchion dan agenda Awyr Dywyll a darparu estyniad i farchnadoedd estynedig,
SO12 – Darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc sy’n sicrhau cyflawniad uchel yn eu sir enedigol – trwy gynnig cyfleoedd gweithio o bell sy’n gysylltiedig â chymwysiadau digidol Awyr dywyll,
Cynhadledd Argo Navis – Dilynwch y Sêr (Hydref 2021)
Dr John Barantine
Portia Jones
Allan Trow
Gerhard Hohenwarter
Dani Robertson
Katie King
Dafydd Wyn Morgan
Saulius Lovčikas
Professor Chris Lintott
Alun M Owen