Dyma brosiect ar y cyd rhwng Menter Môn trwy Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Gwynedd, Hwb Menter a Chynllun Arfor.
Gofod gwneud cydweithredol ydi Ffiws yn ei hanfod, sy’n cynnwys gwahanol offer y gall pobl eu defnyddio trwy wneud apwyntiad. Dechreuodd fel peilot mewn siop wag ym Mhorthmadog, ond bellach mae tua wyth safle ar draws Gwynedd a Môn, gyda mwy yn agor yn y dyfodol agos.
Mae’r syniad yn seiliedig ar ddatblygu lleoliadau ar hyd a lled y rhanbarth ble gall pobl fynd i greu a bod yn greadigol gan ddefnyddio offer arbenigol fel argraffwyr 3D a thorwyr finyl a laser. Mae Ffiws hefyd yn ceisio newid agweddau tuag at drwsio pethau sydd wedi torri – gall fod yn unrhyw beth o deganau i hen feics. Yn hytrach na thaflu i safleoedd tirlenwi, y gobaith yw gwella sgiliau pobl a datblygu ffyrdd arloesol o ail-ddefnyddio ac ailgylchu hen eitemau.
Mae gofod gwneud Ffiws yn enghraifft arbennig o sut mae arian LEADER wedi arwain at brosiect hir dymor sydd wir wedi cydio yn nychymyg ei ddefnyddwyr ac yn un sy’n mynd o nerth i nerth. Ac er bod hwn yn gynllun sy’n cael ei gyfri dan thema technoleg a busnes Menter Môn, mae’n un sy’n adlewyrchu cymaint o werthoedd y cwmni – o safbwynt ein gwaith amgylcheddol, hybu entrepreneuriaeth a chreu cymunedau llewyrchus a hyfyw.