Mae prosiect ymchwil ym Môn yn torri tir newydd wrth fonitro adar a bywyd gwyllt oddi ar arfordir Ynys Cybi fel rhan o waith paratoi ar gyfer datblygiad ynni llanw, Morlais.

Yn gynllun Menter Môn, mae Prosiect Ymchwil Nodweddion Morol (MCRP) yn prysur ddatblygu enw iddo’i hun yn fyd eang am arloesi ym maes ymchwil bywyd gwyllt. Cafodd ei sefydlu er mwyn caniatáu i ddyfeisiadau ynni llanw Morlais gael eu gosod mewn ffordd na fydd yn peryglu adar a mamaliaid morol. Y nod yw creu cynllun monitro a lliniaru amgylcheddol a chasglu canfyddiadau fydd ar gael ar gyfer prosiectau tebyg i’r dyfodol.

Gan gydweithio gydag arbenigwyr o bob cwr o Brydain mae’r tîm yn gwneud defnydd o dechnoleg mewn ffyrdd cwbl newydd. Un enghraifft sydd wedi dennu cryn sylw yn y maes yw’r defnydd o ynni solar a thechnoleg LoRaWAN i ddysgu am ymddygiad adar ger goleudy adnabyddus Ynys Lawd.

Mae tîm MCRP wedi gweithio gyda’r RSPB i greu paneli solar digon bychan i ffitio ar goes aderyn er mwyn pweru dyfais i gyfathrebu gyda systemau yn ôl ar y tir. Mae LoRaWAN yn dechnoleg sy’n bodoli ers rhai blynyddoedd, mae’n rhoi’r gallu i gysylltu dyfeisiadau batri yn ddiwifr i’r rhyngrwyd.

Mae Helen Roberts sy’n gweithio ar y prosiect yn egluro: “Rydyn ni wedi llwyddo i greu paneli solar arferol ar raddfa digon bychan gydag argraffydd 3D i ffitio ar tag ar goes aderyn. Gyda thechnoleg LoRaWAN wedi osod ar hwnnw wedyn, bydd y tîm yn gallu monitro ac ymchwilio i ymddygiad yr adar yn eu cynefinoedd.

“Dyma fydd y tro cyntaf i hyn gael ei wneud erioed yn unrhyw le yn y byd – rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau. Heb os bydd hyn a’r gwaith tagio sydd eisoes yn cael ei wneud gan academyddion o Brifysgol Abertawe yn rhoi mewnwelediad newydd cyffrous i ni i batrymau bwydo, deifio a theithio’r adar oddi ar arfordir Ynys Lawd ac yn bwysicach, yng nghyd-destun y prosiect hwn, byddwn yn gallu monitro os oes newid yn y patrymau hyn dros yr hir dymor.”

Dim ond un o nifer o’r dulliau monitro yw’r tagiau solar. Yn ogystal, mae MCRP newydd gwblhau proses o osod tagiau ar forloi sy’n byw o amgylch arfordir Môn. Eto y nod yw ceisio dysgu mwy am sut mae’r mamaliaid yn byw – ond mae’r broses hefyd yn cael ei redeg mewn cydweithrediad ag ysgolion lleol. Trwy dynnu disgyblion i mewn i’r gwaith, gobaith MCRP yw ysbrydoli cenhedlaeth o bobl ifanc i ymddiddori mewn bywyd gwyllt lleol.

Un arall sy’n gweithio ar y cynllun yw Clare Llywelyn. Meddai: “Trwy weithio efo ysgolion lleol a chaniatáu i ddisgyblion ‘fabwysiadu’ morlo, rydan ni yn gobeithio eu hysbrydoli nhw i  gymryd rhan mewn gwyddoniaeth a’r gwaith sy’n cael ei wneud wrth i ni baratoi ar gyfer datblygiad ynni llanw Morlais. Gyda’r dechnoleg sy’n cael ei ddefnyddio mae pobl ifanc yn gallu dilyn a monitro hynt morlo penodol dros gyfnod o tua flwyddyn.”

Technoleg arall sydd ar waith yn rhan o MCRP yw monitro sain, gyda theclynnau  wedi eu hangori ger Ynys Lawd  ar wely’r môr. Mae dyfeisiau PAM (Passive Acoustic Monitoring) yn dilyn sain anifeiliaid i ddysgu am sut maen nhw yn bwydo a ble maen nhw’n nofio.

Mae Clare yn egluro: “Gan nad oes llawer o waith wedi ei wneud yn y maes hyd yma, bydd canlyniadau ein hymchwil ni yma ym Môn yn cael ei rannu yn gyhoeddus fel bod prosiectau ynni morol eraill yn fyd eang yn gallu ei ddefnyddio. Mae’r sector yn dal i fod yn eithaf newydd, felly ein gobaith ni yw chwarae rhan wrth hybu twf mewn ynni cynaliadwy tra’n sicrhau diogelwch a ffyniant bywyd gwyllt.”

Mae Menter Môn yn cyd-weithio gyda rhwydwaith o academyddion ac arbenigwyr blaenllaw ar MCRP,  gan gynnwys Prifysgolion Bangor, Abertawe a St Andrews, yr RSPB, Ocean Science Consulting, HR Wallingford, Subacoustech, MarineSpace a Juno Energy. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac Ystad y Goron.

Derbyniodd gynllun ynni llanw Morlais ganiatâd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn 2021. Mae gwaith o ddatblygu is-orsaf ar gyfer Morlais eisoes ar waith ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr o 2026 ymlaen. Wedi ei ddatblygu yn llawn mae gan y cynllun botensial i greu hyd at 240MW o drydan. Bydd y gwaith adeiladu a gweithredu’n digwydd yn raddol i alluogi monitro’r effaith ar fywyd gwyllt a rhoi camau lliniaru mewn lle os bydd angen.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233