Mae technoleg sonar tanddwr arloesol wedi ei osod ar drawsnewidydd ynni llanw ATIR Magallanes Renovables fel rhan o Brosiect Ymchwil Nodweddu Morol Menter Môn (MCRP).

Mae MCRP yn brosiect ymchwil a datblygu arloesol sydd wedi cael ei gynllunio i gefnogi gosod dyfeisiadau ynni llanw yn ddiogel ym Mharth Arddangos Morlais, oddi ar arfordir Ynys Cybi, Ynys Môn.

Gan ddefnyddio technoleg sy’n cael ei ddatblygu gan Uned Ymchwil Mamaliaid y Môr Prifysgol St Andrews, mae’r teclyn sonar wedi’i osod o dan drawsnewidydd ynni llanw Magallanes ATIR, sydd ar hyn o bryd  yn y môr yng Nghanolfan Ynni Morol Ewrop (EMEC) Ynysoedd Erch (Orkney).

Bydd y cam cyntaf hwn yn casglu data sonar am gyfnod o hyd at fis, gyda’r ail gam yn cael ei gynllunio  yn ddiweddarach eleni. Mae’r dechnoleg yn anfon signal acwstig amledd uchel neu pwls o sain i’r dŵr; os oes gwrthrych yn llwybr y sain, mae’n bownsio oddi ar y gwrthrych hwnnw ac yn dychwelyd “adlais” i’r teclyn sonar.

Bydd yr astudiaeth yma yn galluogi ymchwilwyr i ganfod ac adnabod mamaliaid morol (morloi, dolffiniaid a llamidyddion) o fewn cyffiniau’r trawsnewidydd ddyfais ynni llanw, gan sefydlu gwaelodlin nodweddion cefndirol pwysig am safle sydd heb llawer o ddata yn bodoli arno eisoes. Mae disgwyl i ganfyddiadau’r astudiaeth yma roi mewnwelediad pwysig i sut mae mamaliaid morol yn ymddwyn ac yn rhyngweithio o amgylch trawsnewidydd ynni llanw.

Bydd y dechnoleg sonar a’r canlyniadau sy’n deillio o’r gwaith yma yn chwarae rhan pwysig wrth sicrhau bod trawsnewidyddion ynni llanw yn cael eu gosod yn raddol ac yn ddiogel yn safle Morlais, trwy’r Cynllun Monitro a Lliniaru Amgylcheddol, fydd yn sicrhau diogelwch bywyd gwyllt morol. Mae disgwyl mai Magallanes fydd y datblygwr cyntaf i osod arae o drawsnewidyddion ynni llanw yma yn 2026, ar ôl derbyn 5.6MW o gapasiti trwy Contractau Llywodraeth y DU ar gyfer Gwahaniaeth yn 2022 (CfD).

Caiff y prosiect ei gyd-ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ac Ystâd y Goron fel rhan o’u hymrwymiad i gasglu a rhannu data a thystiolaeth i gefnogi’r sector llif llanw a thwf cynaliadwy ynni adnewyddol.

Fel rhan o’r gofynion cyllido, bydd yr holl ymchwil a chanfyddiadau MCRP ar gael i brosiectau ynni adnewyddol ar draws y byd trwy Gyfnewidfa Data Morol Ystâd y Goron, sef casgliad o bwys rhyngwladol o ddata diwydiant morol. Bydd hyn yn cefnogi datblygiadau ynni llanw ar raddfa fasnachol i’r dyfodol, gan roi cychwyn pwysig iddynt trwy eu helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

 

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233