Rydym yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli fel rhan o Brosiect Bioamrywiaeth Afonydd Menai. Dyma astudiaeth achos fideo byr sy’n rhoi crynodeb o’r prosiect, a chyfweliad gyda Robert, un o’n gwirfoddolwyr. Gŵr ifanc lleol 16 oed yw Robert sy’n manteisio ar y cyfle i weithio fel gwarcheidwad afon gan gyfrannu at ei Wobr Dug Caeredin. Rydym wedi recriwtio 12 o wirfoddolwyr hyd yma. Mae pob un ohonynt yn gweithio fel gwarcheidwaid afon yn monitro ein rafftiau bywyd gwyllt ac yn sicrhau bod Ynys Môn a Gwynedd yn parhau’n lloches i rywogaethau a warchodir. Gobeithiwn annog mwy o wirfoddolwyr i gyflawni gwaith gwirfoddol tebyg, trwy gydol y prosiect.