Un cynllun yn ein portffolio cadwraeth ac amgylchedd sydd wedi denu cryn sylw yw ein gwaith yn hyrwyddo dynodiad ‘Awyr Dywyll’. Mae potensial i ardal Môn a Gwynedd fel cyrchfan astro-dwristiaeth wedi cael ei adnabod ers tro – ac yn cael ei weld fel cyfle i ymestyn y tymor gwyliau. Gyda Pharc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi derbyn dynodiad ‘Awyr Dywyll’ ac Ynys Môn a Phen Llŷn yn cael eu cydnabod hefyd, mae gwaith wedi bod ar y gweill i geisio denu mwy o ymwelwyr sy’n ymddiddori mewn sêr i’r ardal.

Ar adeg pan mae diddordeb cynyddol yn ein hinsawdd a’r amgylchedd, fe redodd Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn gynllun peilot i ddarganfod potensial hyrwyddo’r awyr dywyll i ddenu ymwelwyr y tu allan i’r tymor brig. Mae Eryri yn un o ddim ond un ar ddeg ardal ledled y byd sydd wedi derbyn y statws rhyngwladol arbennig am nosweithiau serennog, ynghyd â dim ond un arall yng Nghymru – sef Bannau Brycheiniog.

Fe weithiodd pump ar hugain o fusnesau Môn a Gwynedd fel rhan o’r peilot, er mwyn gweld sut i wneud yn fawr o’r statws Awyr Dywyll. Cynhaliwyd cyfres o weithdai astro- dwristiaeth, a chafodd offer arbenigol fel ysbienddrychau a siartiau craffu ar sêr eu darparu i fusnesau i fenthyg i’w gwesteion.

Un o’r gweithgareddau oedd hefyd yng nghlwm â’r peilot oedd prosiect celf i greu Cysawd yr Haul o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Gan weithio gydag artist lleol, gosodwyd modelau o’r planedau mewn caffis, bwytai a siopau ar hyd a lled y Parc – gan leoli’r haul ei hun yn Blaenau Ffestiniog.

Erbyn heddiw mae Awyr Dywyll wedi penodi swyddog llawn amser i weithredu ym Môn ac Eryri, sy’n ganlyniad uniongyrchol o’r buddsoddiad LEADER.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233