Mae Menter Môn wedi croesawu’r newyddion bod Hwb Hydrogen Caergybi wedi’i gynnwys fel un o bum prosiect newydd all elwa o gyllid Cynllun Twf Gogledd Cymru.
Mewn cyfarfod ddydd Gwener, cefnogodd aelodau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yr argymhelliad i wahodd pum prosiect newydd i ymuno â phortffolio’r Cynllun Twf, gan gynnwys y prosiect o Ynys Môn. Yn amodol ar gwrdd â meini prawf, bydd yr Hwb nawr yn mynd ymlaen i ddatblygu eu hachos busnes amlinellol i sicrhau’r cyllid.
Menter Môn sy’n gyfrifol am brosiect yr Hwb gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn, a dyma fydd y datblygiad hydrogen cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cael ei weld fel cam pwysig yn yr ymdrech i leihau allyriadau carbon, yn ogystal â bod yn gyfle i hybu’r economi leol. Bydd hydrogen gwyrdd yn cael ei gynhyrchu ar y safle a’i ddosbarthu oddi yno fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen heb allyriadau.
Justin Mason ydi Rheolwr Busnes Datblygu Ynni yn Menter Môn. Dywedodd: “Roeddem yn falch iawn o gael gwybod bod yr Hwb Hydrogen yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Twf. Mae hwn yn gam mawr ymlaen a bydd yn gyfraniad sylweddol wrth i’r prosiect symud i’r cyfnod nesaf. Mi fyddwn yn gweithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru a’n partneriaid wrth i ni ddatblygu ein hachos busnes amlinellol er mwyn sicrhau’r cyllid. Mae gwaith i’w wneud o hyd er mwyn denu buddsoddiad pellach – a bydd y cyhoeddiad hwn yn cryfhau ein hachos mewn trafodaethau gyda chyllidwyr posib eraill.”
Meddai Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn ac Arweinydd Ynni Carbon Isel ar y Bwrdd Uchelgais: “Mae hwn yn newyddion gwych a gobeithio y bydd yn symud yr Hwb Hydrogen gam yn agosach at y cyfnod adeiladu a gweithredu. Mae’r prosiect yn cyd-fynd â’n Rhaglen Ynys Ynni gan ddod â manteision economaidd-gymdeithasol – yn cynnwys swyddi newydd, datblygu sgiliau, a chyfleoedd cadwyn gyflenwi.”
Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1biliwn yn economi’r rhanbarth gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyfrannu buddsoddiad £240miliwn fel rhan o’r Cynllun. Y nod yw adeiladu economi mwy cynaliadwy a gwydn yng Ngogledd Cymru drwy hybu cynhyrchiant a mynd i’r afael â heriau a rhwystrau i dwf economaidd hirdymor.