Mae bwi monitro bywyd gwyllt wedi cael ei osod yn y môr oddi ar arfordir Caergybi, gan nodi carreg filltir arwyddocaol i’r sector ynni llanw yng Nghymru. Mae’r fenter yn rhan o waith paratoi cyn gosod tyrbinau yn y môr ar gyfer cynllun ynni llanw Morlais.
Yn rhan o Brosiect Ymchwil Nodweddion Morol (MCRP), ac wedi ei arwain gan Menter Môn, pwrpas y bwi yw casglu data er mwyn sicrhau diogelwch bywyd gwyllt pan fydd tyrbinau yn cael eu gosod yn y dŵr oddi ar arfordir Ynys Cybi maes o law. Mae technoleg casglu data ar ffwrdd y bwi, sydd wedi teithio o Ynys Erch (Orkney), yn cynnwys camerâu is-goch tanddŵr, camerâu ar wyneb y môr yn ogystal ag offer mesur sain. Mae’r bwi yn cael ei yrru a’i bweru gan ynni solar a gwynt.
Clare Llywelyn, yw rheolwr y prosiect, mae’n yn egluro: “Bydd y bwi yn ein helpu ni i wneud gwaith ymchwil amgylcheddol fydd yn werthfawr wrth i ni gefnogi datblygiad ynni llanw Morlais a chynlluniau tebyg eraill ar draws y byd. Mae’r data rydym yn ei gasglu yma yn Ynys Môn yn hollbwysig a bydd ar gael i’w rannu gyda phrosiectau ynni adnewyddadwy morol eraill i’r dyfodol. Y prif ffocws yw treialu dulliau casglu data gweledol yn ogystal â dadansoddi’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu i adnabod rhywogaethau. Bydd y prosiect yn ein helpu i ddysgu mwy am y mamaliaid morol sy’n byw yn yr ardal a sut y gallwn eu hamddiffyn nhw.”
Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, ychwanegodd: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, a dyma’r darn cyntaf o offer i gael ei osod yn y môr yn fan hyn wrth i ni wneud gwaith monitro i baratoi ar gyfer Morlais. Rydym yn defnyddio’r dechnoleg fwyaf diweddar fel rhan o’r prosiect a bydd yr ymchwil yn allweddol i dwf y sector ynni’r llanw ledled y byd. Mae sicrhau bod bywyd gwyllt a chynefinoedd morol lleol yn cael eu diogelu wedi bod yn bwysig i ni ers y cychwyn wrth i ni ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy – mae’r prosiect yma a’r bwi yn rhan o’n strategaeth i wneud hynny.”
Trwy MCRP, mae Menter Môn yn gweithio gyda rhwydwaith o academyddion blaenllaw a busnesau o fewn y sector ynni llanw, i ddatblygu cynllun ar gyfer y diwydiant. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Stâd y Goron.
Pan fydd y rhan hwn o waith MCRP wedi dod i ben mae disgwyl i’r gwaith o osod tyrbinau yn y môr ar gyfer Morlais gychwyn yn 2026. Bydd monitro amgylcheddol yn parhau trwy gydol bywyd Morlais i sicrhau bod mamaliaid ac adar y môr yn cael eu gwarchod yn barhaus.