Mae Menter Môn, ar ran Cyngor Sir Ynys Môn, wedi sefydlu Partneriaeth Fwyd Ynys Môn er mwyn rhoi ffocws strategol i holl weithgareddau bwyd o fewn y sir ac i weithio tuag at y nodau sydd o fewn y siarter fwyd yn ogystal â gweithio tuag at gynlluniau strategol o fewn yr awdurdod. Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym wedi cyhoeddi Cronfa Partneriaeth Fwyd Ynys Môn, sy’n ymroddedig i gefnogi prosiectau arloesol sy’n ceisio mynd i’r afael â heriau hollbwysig yn y diwydiant bwyd o fewn rhanbarthau Ynys Môn. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ystod amrywiol o brosiectau sy’n cyfrannu at dwf cynaliadwy a theg y sector bwyd yn y meysydd hyn.

I wneud cais, darllenwch y ddogfen cwestiynau cyffredin yna cwblhewch y ffurflen gais isod, gan ddarparu gwybodaeth fanwl am eich prosiect, ei amcanion, a’r canlyniadau disgwyliedig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol gallai helpu asesu effaith posibl eich prosiect.

Ffurflen Gais-

 

Am gymorth pellach, cysylltwch â bwyd@mentermon.com / 01248 725 700

Dyddiad cau- 13:00, 06/11/2023

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233