Pwy a Beth yw Menter Môn?

Mae Menter Môn yn fenter di elw sydd yn gwireddu cynlluniau led led Cymru gyda phwyslais ar Ynys Môn a Gwynedd. Mae gennym Fwrdd Cyfarwyddwyr sydd yn rhoi eu hamser yn wirfoddol er mwyn darparu cyfeiriad strategol i’r cwmni.

Dros y blynyddoedd, mae Menter Môn wedi esblygu i gael nifer o ganghennau. Ond yr un nod sydd wrth wraidd pob gweithgaredd:

Dadgloi potensial ein pobl a’n hadnoddau er mwyn sicrhau dyfodol i’n cymunedau.

Rydym yn canfod, creu a gweithredu cyfleoedd i:

  • gefnogi a datblygu pobl
  • gryfhau’r economi
  • wella yr amgylchedd
  • fywiogi ein diwylliant

Mae Menter Môn yn ychwanegu gwerth at adnoddau’r ardal er budd trigolion lleol. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith yn y meysydd:

  • Ynni Adnewyddadwy
  • Economi Gref
  • Cymunedau Llewyrchus
Cwestiynau a ofynnir yn aml…

Rydym wedi crynhoi ein gweithgarwch yn dri phrif weithgaredd.

Creu cymunedau llewyrchus

  • Helpu cymunedau i ffynnu yw’r sylfaen mae Menter Môn wedi cael ei hadeiladu arni. Rydym yn cefnogi cymunedau bywiog, lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, lle mae amgylchedd iach, a lle mae pobl ifanc dalentog yn cael eu cyflogi mewn swyddi o ansawdd uchel. Rydym yn galluogi cymunedau i ddod at ei gilydd i oresgyn yr heriau maent yn eu hwynebu a bod yn fwy mentrus wrth iddynt siapio eu cymunedau ar gyfer y dyfodol.

Cynhyrchu ynni adnewyddadwy

  • Mae ein prosiectau ynni adnewyddadwy yn ategu gwaith cadwraeth ac amgylcheddol Menter Môn ac yn diogelu’r blaned drwy fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â chynhyrchu ynni glân, rydym hefyd yn canolbwyntio ar hybu’r economi leol a rhanbarthol, darparu cyfleoedd i bobl ifanc a sicrhau manteision i gymunedau. Mae Menter Môn wedi nodi potensial mawr ar gyfer ynni adnewyddadwy ar Ynys Môn ac mae’n gyfrifol am brosiectau ynni gwyrdd arloesol gan gynnwys Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi.

Adeiladu’r economi

  • Mae arloesi yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud ym Menter Môn. Rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy’n dechrau ar eu taith fusnes. Rydym yn un o bartneriaid cyflenwi Busnes Cymru ac mae gennym ein Hwb Menter ein hunain i gefnogi entrepreneuriaeth a darparu’r adnoddau cywir i fusnesau gyflawni eu nodau. Rydym yn weithgar mewn meysydd twf yn yr economi fel technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaethyddiaeth, ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau

Nid yw’r cwmni yn derbyn arian craidd ac mae’n gorfod ymgeisio neu gystadlu am bob ceiniog.

Mae nifer y staff yn amrywio o ganlyniad i natur rhaglenni cyllido. Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi dros 80 yn ein swyddfeydd yn Llangefni, Gaerwen a Phorthmadog yn ogystal ag aelodau staff sydd yn gweithio o bell ledled Cymru.

Oeddech chi’n gwybod?

Ydych chi wedi sylwi ar yr aderyn lliwgar yn logo Menter Môn? Beth yw arwyddocâd yr aderyn a beth sydd ganddo i wneud efo Menter Môn? Y Nico yw’r aderyn ac wedi ei ysbrydoli gan gerdd y bardd rhyfel, Cynan. Mae’r gerdd yn adlewyrchu hiraeth y bardd am gefn gwlad ac am y bobl nôl adre. Fel y Nico, mae Menter Môn yn lledaenu’r neges nad oes unman yn debyg i’n cynefin. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn siŵr fod ein hardaloedd yn cael eu gwarchod a’u datblygu i fod ar eu gorau ac yn barod i wynebu heriau’r dyfodol.

Anfon y Nico

Nico annwyl ei di drostai
Ar neges bach i Gymru lân ?
Ei di o wlad y clwy’ a’r clefyd
I ardaloedd hedd a chân ?
Ydi mae’r hen Strwma’n odaeth
Dan y lleuad ganol nos,
Ond anghofiat tithau’r cwbwl
‘Daet ti’n gweld y Fenai dlos.

Sut yr wt-ti’n yn mynd i ‘nabod
Cymru, pan gyrhaeddi ‘ngwlad ?
Hed nes doi i wlad o frynia
Sydd ar môr yn cuddio’u trad ;
Lle mae’r haf yn aros hira,
Lle mae’r awal iach mor ffri,
Lle mae’r môr ar nefoedd lasa,
Gwlad y galon – dyna hi.

Chwilia Gymru am yr ardal
Lle mae’r gog gynhara’i thôn
Os cei di yno groeso calon,
Paid ag ofni – dyna Fôn:
Hêd i’r gogladd dros Frynsiencyn,
Paid ag oedi wrth y Tŵr
A phan weli di Lyn Traffwll,
Gna dy nyth yng ngardd Glan Dŵr.

Gardd o floda ydi honno,
Gardd o floda teca’r byd,
Ond mi weli yno rywun
Sy’n glysach na’r rhosynna i gyd.
Cân fy ngofid, cân i Megan,
Cân dy ora iddi hi;
Cân nes teimla hitha’r hirath
Sydd yn llosgi ‘nghalon i.

Dywad wrth fy nghefnder hefyd
Y rhown i’r byd am hanner awr
O bysgota yn y Traffwll,
Draw o sŵn y gynna’ mawr :
Dywed wrtho ‘mod i’n cofio
Rhwyfo’r llyn a’r sêr uwchben ;
Megan efo mi, a fonta
Efo’r ferch o’r Allwadd Wen.

Wedi ‘nabod Wil a Megan,
Dei di byth i ffwr’ , dwi’n siŵr;
Pwy ddoi’n ôl i Facedonia
Wedi gwelad gardd Glan Dŵr ?

Cynan

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233