CROESO I CYLCHOL

Mae economi gylchol yn dod â ni’n nes at adref

Cylchol Cymru

Prosiect gan Menter Môn drwy’r awdurdodau
lleol, gyda chefnogaeth Cronfa Economi
Gylchol Llywodraeth Cymru.

Nod Cylchol yw hybu economi gylchol ym mhob rhan o Ynys Môn a Gwynedd, drwy gynnal digwyddiadau a gweithdai cymunedol cyffrous. Mae hynny’n cynnwys y rhai a gynhelir yn Gofodau Gwneud Ffiws a hefyd y prosiectau cymunedol eraill yn y rhanbarth sy’n hybu economi gylchol.

Gwynedd

Mae 45% o allyriadau byd-eang yn dod o eitemau bob dydd

Mae ein galw am gynhyrchion newydd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Trwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu defnyddio’n hirach gallwn helpu i leihau allyriadau ac arbed arian, gan gefnogi economi gylchol. Rydym am ddatblygu economi gylchol fywiog ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd drwy annog trwsio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau bob dydd ac eitemau i’r cartref, drwy greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch yn ein cymunedau.

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd i ddeall beth yw economi gylchol, creu cyfleoedd i bobl a busnesau gymryd rhan, a lledaenu’r gair y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd.

Dysga sut fedri di gymryd rhan.

FFIWS

Rhwydwaith o ofodau gwneud yw Ffiws, sy’n agored i unrhyw un yn Ynys Môn a Gwynedd.

Mae’r mannau cymunedol hyn yno i sbarduno creadigrwydd ac annog pobl i wneud pethau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer uwch-dechnoleg.

Mae gofodau gwneud Ffiws yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o’r economi gylchol a helpu i leihau gwastraff yma yng Nghymru.

Repair Cafe Wales Logo

Digwyddiadau Caffi Trwsio Cymru

Mae llawer o leoliadau Ffiws hefyd yn cefnogi prosiect Caffi Trwsio Cymru. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau rheolaidd, a gynhelir gan wirfoddolwyr a all eich helpu i drwsio ac ailddefnyddio eitemau am ddim. Gall hyn gynnwys ddillad, dodrefn, eitemau trydanol a beiciau, i enwi ond ychydig.

Bydda’n rhan o’r ymgyrch!

Mae Ffiws bob amser yn chwilio am grefftwyr medrus a all helpu i gynnal gweithdai ac annog pobl i fod yn rhan o’r newid i ailddefnyddio ac ailgylchu. Felly, os oes gen ti grefft neu dalent allai helpu eraill, tyrd i ymuno â’r tîm.

Does dim rhaid cymryd rhan rhwng 9 a 5. Os fedri di helpu am 2 ddiwrnod y mis, neu 5 diwrnod yr wythnos, hoffem glywed gen ti. Fe gei di dy dalu am dy amser, hyd yn oed os nad wyt ti wedi cynnal gweithdy dy hun o’r blaen! Mae cefnogaeth lawn ar gael i bawb sy’n cymryd rhan.

Cefnogi Cylchol

Rydym yn gyffrous i arwain ymgyrch newydd fydd yn sicrhau economi gylchol gryfach yng Ngwynedd ac Ynys Môn, ond rydym angen dy help di! Os wyt ti wedi ymweld â gofod Ffiws, wedi cynnal gweithdy neu defnyddio Caffi Trwsio, cofia sôn am hyn ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddia.

#CylcholCymru

Support Logos

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233