Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn agor yr isorsaf sy’n gysylltiedig â chynllun ynni llanw Morlais ar Ynys Môn yn swyddogol yr wythnos hon. Mae’r digwyddiad, sy’n binacl ar dros ddeng mlynedd o waith, yn nodi nid yn unig garreg filltir arwyddocaol i’r prosiect ei hun ond i’r sector ynni llanw yng Nghymru.

Fel rhan o Fforwm Cymru Iwerddon, bydd y Prif Weinidog yn croesawu’r Tánaiste Gwyddelig, Micheál Martin TD (Dirprwy Brif Weinidog) i dynnu sylw at Morlais fel datblygiad ynni llif llanw allweddol yng Nghymru.

Morlais, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi yw’r cynllun ynni llanw mwyaf yn y DU sydd wedi cael caniatâd. Mae’n cael ei reoli gan y fenter gymdeithasol Menter Môn a sicrhaodd brydles Ystâd y Goron ar gyfer parth 35KM2 o wely’r môr yn 2014. Ers hynny, ac ar ôl sicrhau caniatâd yn 2021, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i roi seilwaith ar y tir. Disgwylir i’r dyfeisiau ynni llanw cyntaf gael eu defnyddio yn y môr yn 2026.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae Morlais yn brosiect arloesol sy’n rhan allweddol o’n hymgais i drawsnewid i economi carbon isel. Mae’n enghraifft o’r math o ddatblygiad a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ein targedau sero net ac yn tanlinellu pwysigrwydd buddsoddi mewn seilwaith ynni glân ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Unwaith y bydd yn weithredol, mae gan y safle botensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan carbon isel. Mae’n cael ei ystyried yn fodel unigryw o fewn y sector – yn hytrach na chynhyrchu trydan ei hun, bydd Morlais yn rhoi’r caniatâd a’r isadeiledd sydd ei angen ar ddatblygwyr dyfeisiau ynni llanw i gyflenwi trydan i’r grid. Mae pum datblygwr eisoes wedi cytuno ar gysylltiad o fewn y cynllun, ac mae trafodaethau gyda phump arall ar y gweill.

Mae Gerallt Llewelyn Jones yn gyfarwyddwr gyda Morlais ac wedi bod wrth galon y prosiect ers ei sefydlu. Dywedodd: “Mae hwn yn ddiwrnod mawr iawn i ni. Rydym wedi wynebu llawer o heriau ar hyd y ffordd, ond diolch i natur benderfynol y tîm a chefnogaeth gan bartneriaid a chyllidwyr gallwn nawr edrych ymlaen at y cam nesaf yn natblygiad y cynllun.

“Fel prosiect Menter Môn, mae Morlais wedi’i wreiddio yn ein cymuned a’r economi leol. O’r diwrnod cyntaf rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo dyfodol ynni mwy cynaliadwy ac adnewyddadwy ac mae heddiw yn adlewyrchu ymroddiad y tîm. Rwy’n edrych ymlaen i weld ein hymdrechion yn dwyn ffrwyth wrth i ni agosáu at gynhyrchu trydan oddi ar arfordir Ynys Môn.”

Mae’r Cynghorydd Llinos Medi yn Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, yn ddeilydd Portffolio Datblygu Economaidd ac yn Aelod Arweiniol y Rhaglen Ynni Carbon Isel ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

Wrth siarad yn y digwyddiad dywedodd: “Mae’r Cyngor Sir wedi bod yn gefnogol i brosiect Morlais ers ei sefydlu. Bydd y prosiect, unwaith y bydd yn weithredol, yn sicrhau bod yr ynys yn arwain y ffordd o ran ynni llanw gan gyfrannu at dargedau sero net cenedlaethol. Bydd hefyd yn parhau i ddarparu buddion economaidd lleol a rhanbarthol sylweddol drwy greu swyddi, gwella sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi. Mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd prosiect Morlais yn ail-fuddsoddi elw yn y cymunedau lleol hynny sy’n gartref i’r datblygiad.”

Yn unol ag ymrwymiad Menter Môn i sicrhau budd i economi’r gogledd, mae Jones Bros Civil Engineering o Ruthun wedi bod yn gyfrifol am adeiladu’r is-orsaf a agorwyd yn swyddogol gan y Prif Weinidog. Gan weithio gyda chwmnïau lleol eraill, nhw hefyd sydd wedi gwneud y gwaith ceblau, gan gysylltu’r cynllun â’r grid cenedlaethol.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chynllun Twf Gogledd Cymru hefyd wedi cefnogi’r prosiect.

 

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233