Mae pêl-droed merched ar ei orau yma yn Sir Fôn, gyda thri thîm merched a llawer iawn o glybiau yn datblygu timau genod a ‘Huddles’. Mae yna wastad wedi bod rhywfath o stigma ynglŷn â merched yn chwarae’r gêm ond credaf fod y llwyddiant mae tîm Merched Cymru wedi ei gael, Ewros Merched yn 2022 a hefyd heb anghofio llwyddiant y Tim Gemau’r ynysoedd Ynys Môn yn ôl yn 2019 wedi cael dylanwad enfawr ar faint o ferched o bob oedran sydd â diddordeb neu yn rhan o ddim yma ar yr Ynys!
Y tri thîm sydd yma ar yr Ynys yw clwb pêl-droed Merched Amlwch, clwb pêl-droed merched Llangefni a chlwb pêl-droed merched Bae Trearddur. Mae’r tri thîm yma yn chwarae yn y gynghrair Gogledd Cymru. Mae yna ddatblygiad enfawr mewn nifer o ferched sydd yn ymuno yn y timau yma gydag oedrannau yn amrywio o 16+. Felly os oes gennych ddiddordeb beth am ymuno ac un o’r timau! Mae pob tîm yn groesawgar iawn i chwaraewyr o bob gallu.
Rhywbeth dwi’n ei weld yn wych am y gymuned pêl-droed yma yn Ynys Môn yw sut mae chwaraewyr sydd heb chwarae o’r blaen yn cael eu derbyn yn syth gan y chwaraewyr mwy profiadol. Mae hun yn dangos i chi bod yna groeso i bawb yn y timau, felly cerwch amdani!
Datblygiad enfawr arall sydd yn digwydd ar y funud yw nifer o gefnogwyr sydd yn dechrau troi fyny i’r gemau. Credaf fod y nifer o gefnogwyr yn tyfu oherwydd y defnydd o gyfryngau cymdeithasol! Dros y blynyddoedd fel chwaraewr fy hun rwyf wedi gweld mwy a mwy o bobl yn dod i’r gemau ac mae hynnu’n sicr yn cael effaith ar y gêm. Y mwy o bobl sydd yna’r gorau yw’r gêm!
Yn 2019 fe gyrhaeddodd y tîm merched Ynys Môn y rowndiau terfynol ac roedd hi’n andros o gêm! Roedd y gefnogaeth gafodd y merched yn ystod y gemau yn anhygoel. Roedd y gemau yn cael eu cynnal yma ar yr Ynys yn ôl yn 2019! Daeth y gemau’r cymunedau yn agosach yn fy marn i gyda phawb yn cefnogi ein hynys fach.
Mae’r gymuned pêl-droed merched yn agos iawn gyda’r tîm gemau Ynysoedd wedi ei wneud gan chwaraewyr o bob tîm yma yn Ynys Môn. Mae’r Gemau ynysoedd eleni yn Gurnsey ac mi fydd y tîm yn chwarae yno ym mis Gorffennaf! Pob Lwc Ynys Môn!