Roedd tîm Morlais yn falch o groesawu Juergen Maier, Cadeirydd Great British Energy, i is-orsaf y cynllun ynni llanw ar Ynys Cybi yr wythnos hon. Dyma ymweliad cyntaf Mr Maier â’r safle ac roedd yn gyfle iddo ddysgu mwy am gynllun Morlais a’i botensial i ddarparu ynni glân, adnewyddadwy i’r grid.

Yn ystod yr ymweliad, cafodd Mr Maier daith o amgylch y safle a’i gyflwyno i aelodau allweddol o dîm Morlais. Roedd hefyd yn gyfle i ddangos y cynnydd gyda’r cynllun hyd yma ac amlygu’r uchelgais i gefnogi twf y sector ynni llanw yng Nghymru a thu hwnt.

Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys diweddariad ar y gwaith sy’n cael ei wneud fel rhan o’r Prosiect Ymchwil i Nodweddion Morol (MCRP) – prosiect sy’n casglu data amgylcheddol pwysig i gefnogi datblygiad Morlais a phrosiectau ynni morol eraill yn y dyfodol.

Dywedodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais: “Roedden ni’n falch iawn o groesawu Juergen Maier i’r safle a chael y cyfle i rannu mwy efo fo am ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae ei ddiddordeb yn Morlais a’r sector ynni morol yn hwb i’r gwaith sy’n cael ei wneud yma ar Ynys Môn i yrru ynni adnewyddadwy ac arloesi yn ei flaen.”

Mae Morlais yn cael ei reoli gan Menter Môn Morlais Cyf, is-gwmni i Menter Môn. Fel un o’r safleoedd ynni llanw mwyaf yn Ewrop, gall y cynllun chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod Cymru yn cyrraedd targedau sero-net tra’n creu cyfleoedd economaidd sylweddol i’r ardal leol.

Mae Menter Môn Morlais wedi derbyn cefnogaeth a chyllid gan Lywodraeth Cymru, NDA (Awdurdod Datgomisiynu Niwclear), Uchelgais Gogledd Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233