Mae Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw wedi cadarnhau bydd yn rhoi trwydded forol i ddatblygu Morlais, cynllun ynni llif llanw oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.

Mae hwn yn gam pwysig arall i’r cynllun a bydd yn golygu bod datblygwr technoleg llif llanw yn cael gosod eu dyfeisiadau yn y mor i gynhyrchu trydan.

Menter gymdeithasol leol, Menter Môn sy’n rhedeg Morlais. Bydd y cynllun yn cynhyrchu trydan gan defnyddio adnoddau llanw sydd ymysg y cryfaf yn Ewrop.  Y cyntaf o’i fath yn y DU, bydd gan Morlais y potensial i gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 180,000 o gartrefi unwaith y bydd yn gweithredu ar ei gapasiti llawn.

Gyda derbyn y caniatâd angenrheidiol, bydd gwaith adeiladu a gweithredu yn gallu cychwyn, gan ddigwydd yn raddol er mwyn monitro effaith ar fywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae disgwyl i waith ar y tir gychwyn yn gynnar yn 2022, gyda’r gwaith yn y môr i ddechrau yn 2023.

Mae Morlais wedi derbyn cefnogaeth gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyngor Sir Ynys Môn, Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear, yn ogystal â Bargen Twf Gogledd Cymru.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233