Mae cynlluniau ar gyfer canolfan hydrogen ar Ynys Môn wedi eu cymeradwyo, gan baratoi’r ffordd ar gyfer y datblygiad cyntaf o’i fath yng Nghymru.

Y nod y yw datblygu Hwb Hydrogen ym  Mharc Cybi, gyda’r fenter gymdeithasol leol, Menter Môn, yn cydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn ar y prosiect. Bydd hydrogen gwyrdd yn cael ei gynhyrchu ar y safle a’i ddosbarthu oddi yno fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen di-allyriadau.

Gyda’r caniatâd yn ei le, gall y gwaith adeiladu ddechrau, ac yn ddibynnol ar  ryddhau cyllid ychwanegol mae disgwyl i’r Hwb fod yn gweithredu erbyn 2025.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae hwn  yn newyddion da ac yn golygu y gallwn symud ymlaen gyda’r cynlluniau cyffrous i wireddu’r Hwb Hydrogen yng Nghaergybi. Fel cwmni lleol rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod swyddi, sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig â’r datblygiad yn aros yma yn yr ardal. Mae hyn yn rhywbeth sy’n bwysig iawn i ni ym Menter Môn ac sydd wastad wedi bod yn ganolog i’n gweledigaeth ni fel sefydliad. Mae’r Hwb newydd yn ychwanegu at ein portffolio ynni ac mae hefyd yn cyd-fynd â nifer o’n prosiectau eraill gan gynnwys cynllun ynni’r llanw, Morlais.”

Ychwanegodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a deilydd y portffolio dros Reoleiddio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Carwyn Jones: “Dyma gam arwyddocaol ar ein taith tuag at economi carbon isel ac yn rhan bwysig o raglen Ynys Ynni. Mae hefyd yn gyfle i ni yma ar Ynys Môn ac ar draws gogledd Cymru i wneud gwahaniaeth wrth i ni gyd ymdrechu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gan fod hydrogen yn allweddol i sicrhau bod trafnidiaeth a  diwydiant yn lleihau allyriadau ac yn cyrraedd targedau lleihau carbon.”

Mae’r prosiect eisoes wedi derbyn £660k gan Lywodraeth Cymru drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol, wedi ei weinyddu gan Gyngor Sir Ynys Môn. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi clustnodi £4.8 miliwn ar gyfer y prosiect, yn dilyn derbyn achos busnes. Mae disgwyl penderfyniad terfynol ar hyn cyn diwedd y flwyddyn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233