Mae’r cyhoedd wedi rhoi eu cefnogaeth i gynllun uchelgeisiol i ddatblygu coridor gwyrdd ar gyfer cerdded, beicio a bywyd gwyllt ar Ynys Môn.

Gweledigaeth Grŵp Llywio Glasffordd Môn yw cysylltu Niwbwrch yn ne’r ynys i Amlwch yn y gogledd, trwy greu llwybr sy’n cysylltu cymunedau ar hyd y ffordd. Mae trywydd y llwybr yn ei gyfanrwydd o dan ystyriaeth ac roedd yr ymgynghoriad yn gyfle i bobl ddweud eu dweud ar weledigaeth Glasffordd Môn.

Os yw’r prosiect yn cael sêl bendith, bydd yn creu llwybr tawel ar gyfer teithiau bob dydd, fydd hefyd yn hyrwyddo tirwedd unigryw’r ynys, ac yn sicrhau bod manteision twristiaeth i’w teimlo yn fwy cyfartal ar draws cymunedau Môn. Y gobaith hefyd yw cynyddu bioamrywiaeth trwy greu, cysylltu ac ymestyn cynefinoedd i alluogi bywyd gwyllt i symud.

Menter Môn sy’n arwain ar y prosiect gyda chefnogaeth partneriaid ar y Grŵp Llywio, gan gynnwys, Cyngor Sir Ynys Môn; Cyfoeth Naturiol Cymru; Dŵr Cymru; Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a busnesau lleol.

Roedd 91% o’r bobl ymatebodd i’r ymgynghoriad yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r weledigaeth, gyda 94% y dweud byddent yn defnyddio’r llwybr. Yr elfen bwysicaf yw mynediad at lwybr sy’n lleihau’r angen i bobl ddod i gyswllt â thraffig. Roedd ymatebwyr hefyd o’r farn y byddai’r cynnig yn dod â manteision economaidd.

Mae Dr. Wyn Morgan, Cadeirydd Menter Môn yn egluro: “Cafodd Lôn Las Cefni ei gwblhau gan Menter Môn bymtheg mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Dyma gyfle rŵan i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a sicrhau bod llwybr newydd sy’n hygyrch i bobl o bob gallu yn cael ei greu. Bydd hefyd yn dod â budd i fywyd gwyllt gyda chynlluniau ar gyfer plannu coed, adfer cynefinoedd a phlygu gwrychoedd yn rhan o’r cynnig.

“Roedd yn bwysig ein bod ni’n cynnwys trigolion er mwyn meithrin balchder a pherchnogaeth o fewn y cymunedau y bydd y llwybr yn mynd drwyddynt. Mae’r ymateb i’r ymgynghoriad yn dangos yn glir bod awydd ymhlith y cyhoedd am y math hwn o ddarpariaeth ar yr ynys.”

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn rhan o’r prosiect o’r dechrau ac eisoes yn asesu prosiect posib yn ne’r ynys, rhwng Pont Marquis a Niwbwrch. Maen nhw hefyd wedi gwneud gwelliannau yn ddiweddar i’r  Lôn Las i’r de o Langefni drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, yr aelod portffolio ar gyfer Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo wedi croesawu canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Ychwanegodd: “Gall y prosiect hwn ddarparu cyfuniad o fuddion cyffrous – y pwysicaf o bosib yw helpu i wella iechyd corfforol a lles meddyliol trigolion lleol.

“Mae’r ymateb yn dangos bod y cyhoedd yn gefnogol iawn i’r weledigaeth a’r cynigion. Byddai hefyd â’r potensial i ddod â manteision economaidd y mae mawr eu hangen i gymunedau fel Llannerch-y-medd ac Amlwch yng nghanol a gogledd yr ynys.”

Mae manteision economaidd, iechyd ac amgylcheddol y math yma o brosiect yn cael eu hyrwyddo ers tro, gydag astudiaethau yn dangos, am bob £1 miliwn gaiff ei wario ar brosiectau cerdded a beicio, bydd £13 miliwn o fudd yn dod yn ôl i’r economi leol. Maen nhw hefyd yn gwella llesiant, gyda 54% o bobl sy’n beicio i’r gwaith yn teimlo’n hapus ac yn llawn egni wrth gymudo.

Mae copi o Astudiaeth Glasffordd Môn a’r adroddiad ymgynghori llawn ar gael ar wefan Menter Môn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233