Mae Ynni Llanw Morlais yn croesawu’r cyhoeddiad gan lywodraeth y DU ar gynnydd mewn prisiau ar gyfer y cylch dyrannu ynni carbon isel nesaf (AR6) yn 2024. Mae’r penderfyniad i godi pris ar gyfer trydan o ynni’r llanw fel rhan o’r rhaglen ehangach i gefnogi technoleg adnewyddadwy, yn cael ei weld fel cefnogaeth i’r sector a’i rôl  wrth anelu am sero-net.

Mae’r cynnydd o 29% mewn prisiau cynnig uchaf ar gyfer trydan ynni llanw o £202/MWh i £261/MWh yn hwb sylweddol a’r gobaith yw y bydd  goblygiadau cadarnhaol ehangach i’r sector o hyn. Mae cyhoeddiad y llywodraeth hefyd yn cynnwys prisiau uwch ar gyfer technolegau eraill, gan gynnwys gwynt ar y môr a solar, gan roi sicrwydd i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy yn gyffredinol.

Wrth groesawu’r newyddion, dywedodd John Jenkins, cyfarwyddwr gyda Morlais: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn dangos hyder y llywodraeth mewn technoleg llif llanw. Mae ganddo ran bwysig i’w chwarae mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac mae’n elfen hollbwysig wrth anelu at sero-net.

“I ni ar Ynys Môn mae arwyddocâd ychwanegol gan ei fod yn rhoi hyder i ddatblygwyr sydd eisoes wedi ymrwymo i ni ym Morlais, trwy lwyddiant AR4 ac AR5. Rwy’n sicr y bydd y cyhoeddiad yn hybu arloesedd ac yn sicrhau ein bod yn parhau ar flaen y gad yn y sector yn ogystal ag annog datblygwyr technoleg newydd i ymrwymo i Morlais.”

Wedi’i reoli gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn, Morlais yw’r safle ynni llanw mwyaf gyda chaniatâd yn y DU. Mae’n cynnig model risg is i ddatblygwyr i osod a phrofi eu technoleg yn y môr ar raddfa fasnachol. Gyda chapasiti cynhyrchu posib o 240 MW mae’r cyhoeddiad diweddar ar sicrwydd ar bris trydan wedi ei gynhyrchu yn Morlais yn gam pwysig arall tuag at gyflawni hyn.

Mae’r gwaith adeiladu ar is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd ar Ynys Cybi bron wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae hefyd wedi sicrhau cyllid gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chyngor Sir Ynys Môn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233