Mae prosiect arloesol Menter Môn i wireddu potensial enfawr gwlân Cymreig yn mynd o nerth i nerth wrth i’r fenter gymdeithasol weithio gyda Chanolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor i ddatblygu pump prototeip allan o gynnyrch gwlân.

Yn brosiect sy’n cael ei arwain gan Menter Môn, bwriad ‘Gwnaed â Gwlân’ yw gwella dealltwriaeth pobl o’r ffibr hwn. Nod y cynllun yw cynnig atebion arloesol i heriau sy’n wynebu’r gadwyn gyflenwi, hwyluso cynnyrch newydd, ac ychwanegu gwerth at wlân Cymreig fel cynnyrch naturiol, cynaliadwy ac amlbwrpas.

Dywedodd Graham Ormondroyd o Ganolfan Biogyfansoddion, Prifysgol Bangor: “Rydyn ni yn hynod falch i fod yn gweithio gyda Menter Môn ar y prosiect hwn. Mae

Prifysgol Bangor yn chwarae rhan fawr mewn arloesedd, gwyddoniaeth a thechnoleg yng ngogledd Cymru. Y gobaith ydi y bydd y prototeipiau hyn yn datblygu ac yn cynnig ffyrdd newydd o ddefnyddio gwlân gan ychwanegu gwerth ar yr un pryd.”

Mae’r prosiect yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth o bobl a busnesau i ddatblygu cynnyrch i ddangos bod potensial i wlân Cymreig fel deunydd gwerthfawr.

Ychwanegodd Sioned McGuigan, swyddog prosiect Gwaned a Gwlân: “Mae costau cneifio bellach yn uwch na phris gwlân a ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol wrth waredu gwlân yn flynyddol. Nod y prosiect yw ychwanegu gwerth ar draws y gadwyn gyflenwi o’r fferm i’r cynnyrch terfynol. Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn wych ac wrth i ni symud i’r camau nesaf o greu’r prototeipiau, rydym eisiau sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i fod yn rhan o’r prosiect.

“Os yn fusnes, ffermwr, cynhyrchwr neu’n rywun sydd â diddordeb yng nghefn gwlad, rydym eisiau clywed gennych chi a chyd-weithio ar y camau nesaf o ddatblygu’r cynnyrch. Dyma gyfle i fynegi eich diddordeb yn y cynllun, rhannu syniadau a chwarae rhan flaenllaw ym mhennod nesaf cyffrous y prosiect. Mae cofrestru’n broses hawdd, ewch draw i https://forms.office.com/r/tsMRKAdia6 i lenwi ffurflen fer.”

Mae Gwnaed a Gwlân yn cael ei ariannu gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020 a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233