Mae Hynamics a Menter Môn, yn falch o gyhoeddi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) ar Hwb Hydrogen Caergybi. Y nod yw cyflymu datblygiad y prosiect drwy sicrhau buddsoddiad posib gwerth sawl miliwn ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prosiect sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio ac yn edrych i sicrhau cyllid wrth symud i gam nesaf. Mae’r cytundeb sector preifat hwn yn arwydd o hyder yn y prosiect ac yn cael ei ystyried fel un sy’n torri tir newydd yng Nghymru.

Dan delerau’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, bydd Hynamics a Menter Môn yn cyd-weithio ar ddatblygu seilwaith hydrogen yng Nghaergybi a maen nhw eisoes wedi dechrau ar gyfnod 6 mis o werthuso dichonoldeb technegol ac economaidd y prosiect. Byddant hefyd yn cwblhau trafodaethau ar ariannu’r Hwb, gwerthu hydrogen a chytundebau gweithredu. Bydd y bartneriaeth yn cefnogi amcanion Cymru a’r DU o gyrraedd targed allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Y gobaith yw y bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn arwain at gytundeb buddsoddi i gefnogi adeiladu Hwb Hydrogen Caergybi.

Wrth groesawu’r cytundeb, dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae potensial hydrogen fel tanwydd glân, carbon isel yn anferth, felly rydym yn falch iawn o fod yn camu i’r bartneriaeth newydd hon gyda Hynamics. Fel cwmni rhyngwladol uchel ei barch, mae eu hyder yn y gwaith yn bwysig i ni ac yn newyddion da i’r prosiect. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i wneud Hwb Hydrogen Caergybi yn realiti.

“Fel menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar brosiectau datblygu cynaliadwy a gyda portffolio ynni adnewyddadwy sy’n tyfu, rydym mewn sefyllfa unigryw. Gall y buddion economaidd a chymdeithasol gael eu cadw’n lleol wrth i ni geisio rhoi gogledd Cymru ar y map ac ar flaen y gad o ran technoleg werdd wrth i ni i gyd fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Dywedodd Pierre de Raphelis-Soissan, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Hynamics: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Menter Môn a’u cefnogi i ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi. Daw ein cyd-weithio ag arbeniged hydrogen Hynamics ac arbenigedd Grŵp EDF a gallu unigryw Menter Môn mewn datblygu cynaliadwy, ynghyd. Gyda’n gilydd, gallwn greu system ynni carbon isel sy’n cefnogi’r newid i economi sero-net.”

Mae tîm Hynamics yn gweithio ochr yn ochr ag EDF Renewables UK sydd eisoes yn adeiladu fferm solar Porth Wen ar Ynys Môn. Mae’r tîm yng Nghymru yn gweithio’n agos gyda’r gymuned leol ac mae ganddynt gynlluniau i fuddsoddi biliynau o bunnoedd yn datblygu piblinell o brosiectau yng Nghymru, fydd yn cyflymu’r daith at sero net. Mae EDF Renewables UK wedi agor swyddfa newydd yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Mae disgwyl i’r bartneriaeth newydd rhwng Hynamics a Menter Môn greu cyfleoedd sylweddol i fusnesau, cyflenwyr a chontractwyr lleol, yn ogystal â sefydliadau academaidd a sefydliadau ymchwil.

Bydd y prosiect yn gweld yr Hwb, sydd yn cael ei adeiladu ym Mharc Cybi, Caergybi yn gweithio ochr yn ochr â rhaglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn. Bydd hydrogen gwyrdd yn cael ei gynhyrchu ar y safle ac yn cael ei ddosbarthu fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen ac i ddatgarboneiddio cludiant morol lleol yng Nghaergybi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid sbarduno rhwng 2020-2023 sydd wedi galluogi’r prosiect i symud ymlaen i’r pwynt yma, ac mae disgwyl cefnogaeth ychwanegol gael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi addo cefnogaeth sylweddol wrth geisio cyrraedd eu targedau sero net erbyn 2050.

Cefnogaeth i’r Hwb Hydrogen

 

Virginia Crosbie, AS: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn newyddion gwych i Ynys Môn ac yn dangos yn gwerth y Porth Rhydd wrth ddenu buddsoddiad. Gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymiad i Hwb Hydrogen Caergybi yn 2021, pan addawodd y Canghellor ar y pryd, y Prif Weinidog Rishi Sunak, £4.8 miliwn i’r prosiect ar sail achos busnes. Mae cael Hynamics yn rhan o’r prosiect yn cryfhau’r prosiect yn sylweddol a byddaf yn gweithio gyda nhw a Menter Môn i ddenu cyflogaeth yn y diwydiant hwn.

 

Rhun ap Iorwerth AS: “Mae hyn yn newyddion gwych ac rwy’n llongyfarch Menter Môn ar fynd â datblygiad Hwb Hydrogen Caergybi i’r cam nesaf hwn. Mae cynnwys EDF Hynamics yn dangos hyder gwirioneddol ac rwy’n falch bod y prosiect cyffrous hwn yn dod yn ei flaen.

 

“Mae gan y prosiect yma gan Menter Môn – mewn sector carbon isel sy’n datblygu’n gyflym – y potensial gwirioneddol i weithredu fel catalydd i greu diwydiant Hydrogen mwy ar Ynys Môn, tra hefyd yn creu gweithgarwch economaidd sylweddol. Ar ôl arwain dadl gyntaf y Senedd ar botensial y sector hydrogen, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad hwn yn fawr.”

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn a’r deilydd portffolio Economaidd,  Cynghorydd Llinos Medi: “Mae’r Cyngor Sir yn croesawu’r cyhoeddiad am y bartneriaeth ryngwladol hon. Y gobaith yw y bydd Hwb Hydrogen Caergybi, sydd wedi cael caniatâd cynllunio gan y Cyngor, yn cael ei adeiladu ac yn dod yn weithredol. Mae’r prosiect yn cyd-fynd yn llwyr â Rhaglen Ynys Ynni’r Cyngor trwy gyflwyno cyfleoedd ar gyfer buddion economaidd-gymdeithasol lleol – gan gynnwys cyflogaeth leol, datblygu sgiliau a chyfleoedd cadwyn gyflenwi.

 

“Gallai Hwb Hydrogen Caergybi hefyd fod yn gyfle i’r Cyngor ymgorffori hydrogen fel tanwydd ar gyfer ein cerbydau fflyd, a’n helpu ni i gyflawni ein uchelgais o fod yn sefydliad sero net erbyn 2030. Yn ei dro, gallai hyn hefyd fod yn gatalydd ar gyfer sefydliadau a diwydiannau eraill ar yr ynys a’r rhanbarth ehangach i ddefnyddio hydrogen yn y symudiad tuag at adferiad gwyrdd.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233