Mae datblygwr tyrbinau sy’n gysylltiedig â phrosiect ynni llanw ar Ynys Môn, wedi derbyn un o’r Contractau Gwahaniaeth (CfD) fel rhan o arwerthiant ynni adnewyddadwy diweddar Lywodraeth y DU. Dyma’r prosiect cyntaf yng Nghymru i sicrhau contract fel rhan o’r dyraniad CfD hwn ac mae’n rhoi sicrwydd refeniw i’r datblygwr, Magallanes, o’r trydan y mae’n ei gynhyrchu yn Morlais. Mae hyn yn cael ei weld fel cam cadarnhaol ac yn dangos hyder yn y prosiect ar adeg pwysig yn ei ddatblygiad, gyda’r gwaith adeiladu ar y tir bellach wedi dechrau.

Dywedodd Gerallt Llywelyn Jones, Cyfarwyddwr Morlais: “Dyma gam sylweddol sy’n paratoi’r ffordd ar gyfer y defnydd masnachol cyntaf o dechnoleg llif llanw yng Nghymru. Mae’n rhoi ein cynllun ni yma ym Môn ar sylfaen gadarn wrth i ni symud ymlaen at gam nesaf y gwaith adeiladu. Mae hyn hefyd yn newyddion da i’r sector – mae’n rhoi llif refeniw gwarantedig a sicrwydd i ddatblygwyr fel Magallanes am ddyfodol ynni llanw.”

Mae’r newyddion yn golygu bod Magallanes nawr mewn sefyllfa gref i weithio gyda’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru wrth iddynt baratoi i osod eu technoleg yn y môr oddi ar arfordir Ynys Cybi. Mae’r cwmni sydd â’i bencadlys yn Galica, Sbaen eisoes mewn trafodaethau â busnesau lleol ac wedi ymrwymo i sicrhau bod cymaint â phosib o’u gwariant yn aros yn lleol. Mae hyn wedi bod yn ystyriaeth allweddol i dîm Menter Môn a Morlais ers lansio’r prosiect dros 8 mlynedd yn ôl.

Ychwanegodd Alejandro Marques, Prif Weithredwr Magallanes: “Mae’r derbyn un o’r cytundebau hyn yn newyddion gwych i ni yn Magallanes ac i Morlais – mae’n hwb enfawr wrth i ni baratoi i ddod â’n technoleg i Ynys Môn. Dyma fydd y tro cyntaf i ni roi ein dyfeisiadau ar waith yn fasnachol ac edrychwn ymlaen at greu swyddi a chyfleoedd hirdymor yma yng ngogledd orllewin Cymru. Mae’r CfD yn gwarantu £179 y megawat am 15 mlynedd a bydd yn ein galluogi ni i ddarparu 6MW o ynni adnewyddadwy glân fel rhan o Morlais.”

Cafodd y cynllun CfD ei sefydlu er mwyn darparu cefnogaeth llywodraeth i’r sector ynni adnewyddadwy yn y DU. Ynghyd â rhoi pris gwarantedig am drydan i ddatblygwyr fel Magallanes, mae hefyd yn adnabod pwysigrwydd llif llanw fel ffynhonnell egni dibynadwy. Mae disgwyl i’r Cylch Dyrannu CfD nesaf gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023 – gyda Morlais a chydweithwyr yn y sector yn aros yn eiddgar am y canlyniadau hynny er mwyn gwneud y mwyaf o gyfleodd ynni llanw yng Nghymru.

Morlais yw datblygiad ynni llanw mwyaf y DU i gael ei redeg gan fenter gymdeithasol. Unwaith y bydd wedi ei adeiladu bydd yn cynhyrchu hyd at 240MW o drydan glân. Ers i Menter Môn ennill prydles Ystâd y Goron i reoli’r parth 35KM2 yn 2014 – sicrhau swyddi lleol a hybu’r economi leol yw’r prif amcanion wedi bod.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233