Mae cwmni adeiladu OBR o Ynys Môn wedi ennill cytundeb gwerth £2m gyda phrif gontractwr Morlais, Jones Bros Civil Engineering UK i adeiladu’r is-orsaf ar gyfer y cynllun ynni llanw oddi ar arfordir Ynys Cybi.

Gyda phenodiad y cwmni o Langefni, mae’r prosiect ynni llanw sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, unwaith eto yn cadw at ei addewid i ddod a budd i gymunedau lleol, busnesau, a’r economi. Mae sicrhau budd i’r ardal wedi bod yn sbardun allweddol i’r prosiect hwn i Menter Môn ers ei sefydlu dros saith mlynedd yn ôl.

Dywedodd Andy Billcliff, Prif Weithredwr Morlais: “Mae hyn yn fwy o newyddion cadarnhaol i’r economi leol, gyda Morlais yn darparu swyddi a chyfleoedd pellach ar Ynys Môn. Mae penodi OBR i adeiladu strwythurau’r is-orsaf yn golygu y gallwn barhau i ddiogelu cyflogaeth ar yr ynys, yn ogystal â chreu cyfleoedd hyfforddiant newydd i bobl ifanc. Mae sicrhau’r cytundebau lleol yn hanfodol i ni gyda Morlais, gyda’r penodiad diweddaraf yma rydym yn teimlo ein bod yn cyflawni hyn.”

Esboniodd Rhys Parry Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr OBR Construction: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Morlais a Jones Bros i adeiladu’r is-orsaf ar gyfer y cynllun. Rydym yn edrych ymlaen i weithio gyda’r tîm ar y prosiect ynni carbon isel arloesol hwn.

“O ganlyniad uniongyrchol i ennill y cytundeb, rydym eisoes wedi croesawu dau brentis newydd, ac yn edrych ymlaen at ddatblygu ymhellach ac ehangu’n tîm yn y rhanbarth.”

Ychwanegodd Brendan Fieldhouse, Rheolwr Cytundebau  Jones Bros: “Hoffwn longyfarch OBR ar eu penodiad hwn i ddatblygu’r prif adeiladau a safle ar gyfer trawsnewidydd yr is-orsaf.

“Mae OBR yn gwmni lleol, gyda phrofiad helaeth mewn cyflawni gwaith tebyg yn llwyddiannus ar draws Ynys Môn, Cymru a’r DU gyfan. Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas gydag nhw dros gyfnod y prosiect.”

Mae Morlais yn rheoli ardal 35 km2 o wely’r môr ger Ynys Cybi, Ynys Môn. Mae gan y cynllun y potensial i roi’r ynys ar y map o ran ynni llif llanw. Dyma’r prosiect cyntaf o’r raddfa a’r math yma i gael ei reoli gan fenter gymdeithasol.

Gyda gwaith adeiladu ar y tir eisoes wedi cychwyn, y gobaith yw dechrau’r gwaith yn y môr yn 2023 ac y bydd y tyrbinau cyntaf yn eu lle ac yn cynhyrchu trydan erbyn 2024.

Mae cam cyntaf gwaith adeiladu Morlais wedi ei ariannu gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Bargen Twf Gogledd Cymru, yn ogystal â’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear hefyd wedi cefnogi’r prosiect.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233