Mae Menter Môn, wedi lansio partneriaeth newydd, a fydd yn cynnal astudiaeth ddichonoldeb i’r broses o ddefnyddio hydrogen i gynhyrchu bwyd cynaliadwy trwy ‘eplesu manwl’ (precision fermentation).
Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, FerMôntation fydd y prosiect cyntaf o’i fath yng Nghymru i edrych ar ddefnyddio hydrogen i gynhyrchu protein, gyda’r gwaith yn ystyried pa mor hyfyw yw’r dechnoleg. Bydd y prosiect yn edrych ar y defnydd o hydrogen i gynhyrchu bwyd cynaliadwy a sut gall y broses ychwanegu gwerth at economi Cymru.
Meddai David Wylie, Uwch Swyddog Prosiect Menter Môn: “Rydym yn falch o fod yn y grŵp cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio’r dechnoleg yma ac yn ddiolchgar i Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth.
“Mae ‘eplesu manwl’ yn cael ei ystyried yn rhan o’r sector Amaeth-Dechnoleg. Mae’n fath o fragu wedi’i fireinio ac yn ffordd o luosi microbau i greu cynnyrch penodol. Byddwn yn treialu’r defnydd o hydrogen fel tanwydd i ddatblygu amrywiaeth o gynhyrchion bwyd, fel protein amgen ac fel bwyd anifeiliaid.
“Mae’r prosiect hwn yn enghraifft o werth cyd-weithio ar draws sectorau ac yn bosibl oherwydd yr amrywiaeth o brosiectau y mae Menter Môn yn eu rheoli, o gynlluniau hydrogen i dechnoleg amaeth.”
Mae Menter Môn yn cydweithio gyda’i partner Grŵp Ymgynghori Lafan ar y prosiect.
Dywedodd Dr Irfan Rais, Ymgynghorydd Ymchwil Lafan Consulting Group: “Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn. Mae gan Eplesiad Manwl y potensial i wneud pethau rhyfeddol; i leihau ôl troed cynhyrchu bwyd a lleihau dibyniaeth llawer o wledydd ar fwyd sy’n cael eu cludo o bell. Gall helpu i ddatblygu proteinau sy’n iach ac yn flasus. Dyma ffordd gynaliadwy, cost-effeithiol ac ecogyfeillgar o gynhyrchu bwyd.”
Ychwanegodd Gethin While – Pennaeth Byw’n Glyfar Llywodraeth Cymru, sy’n cyllido’r prosiect drwy’r cynllun SRBI HyBRID 2.0: “Mae posibiliadau a chanlyniadau cyffrous ac uchelgeisiol y prosiect hwn wedi dwyn ein sylw o’r dechrau. Mae’n cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i ddim erbyn 2050 ac yn cyfarch Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy greu cyfleoedd cyflogaeth mewn sectorau gwyrdd a chynaliadwy.
“Bydd datblygiad y prosiect hwn yn cynyddu rhagolygon economaidd Cymru ac yn gwella ein lles amgylcheddol drwy drawsnewid i economi wyrddach. Edrychwn ymlaen at weld y canlyniadau a’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol.”
Bydd cam cyntaf y prosiect yn rhedeg tan fis Mehefin ac os bydd yn llwyddiannus bydd y prosiect yn symud ymlaen i’r cam nesaf, sef lansio uned arddangos ym mis Medi.