Ddegawd yn ôl, sefydlwyd Fforwm Iaith Ynys Môn gan Gyngor Sir Ynys Môn a Menter Môn er mwyn hybu cydweithio rhwng sefydliadau er lles y Gymraeg ar Ynys Môn. Ers hynny, mae’r Fforwm wedi mynd o nerth i nerth drwy wireddu cynlluniau gweithredu blynyddol gyda dros 25 o bartneriaid yn rhan o’r Fforwm erbyn hyn.
Nododd Annwen Morgan, Cadeirydd presennol y Fforwm: “Mae diogelu’r Gymraeg ond yn fwy na hynny, hybu a chreu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol ar Ynys Môn mor bwysig.
Dwi’n teimlo bod gallu defnyddio’r Gymraeg wrth wneud pethau syml fel mynd â phlant i nofio, archebu bwrdd mewn bwyty neu dalu am neges mewn siop yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn parhau yn iach ac yn naturiol yma, mewn ardal sydd wedi bod yn gadarnle i’r Gymraeg erioed.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r Fforwm wedi canolbwyntio ar greu cynllun gweithredu cydweithredol, sy’n canolbwyntio ar bump maes blaenoriaeth;
- Y Gymraeg yn y gweithle, gan sicrhau bod partneriaid y Fforwm yn rhannu adnoddau ac arfer dda ar sut i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn eu gweithleoedd nhw.
- Teuluoedd a Throsglwyddo’r Gymraeg, gyda phwyslais ar ymgysylltu gyda theuluoedd a grwpiau sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar er mwyn hyrwyddo ap OgiOgi, ac annog teuluoedd i fagu eu plant yn ddwyieithog – https://www.ogiogi.cymru/
- Cymuned a phobl ifanc, gan ganolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynnig blas o’r Gymraeg a diwylliant Cymru i siaradwyr di-hyder a phobl ifanc di-Gymraeg ar Ynys Môn.
- Addysg gyda’r pwyslais ar ehangu’r cyfleoedd i ddisgyblion fod yn defnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol y tu allan i’r ystafell ddosbarth.
- Seilwaith a gwaddol, sydd am sicrhau amser ac adnoddau i gynhaliaeth y Fforwm. Mae hyn yn cynnwys cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o waith y Fforwm, a’r partneriaid fel aelodau unigol.
I ddathlu’r degawd bydd Fforwm Iaith Ynys Môn yn cynnal brecwast cyhoeddus ym Mhabell Menter Môn yn Sioe Môn am 10am ar y 14eg o Awst.
Bydd lluniaeth ar gael yn ogystal â sgwrs banel yng nghwmni’r Cadeirydd Presennol – Annwen Morgan, Annest Rowlands – Hwylusydd OgiOgi, Rhian Roberts-Jones – cyd-lynydd Siarter Iaith Gwynedd a Môn a Catrin Lois Jones – Rheolwr Iaith a Chymuned Menter Môn. Bydd y panel yn cael ei arwain gan Carwyn Jones – Newyddiadurwr lleol.
Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar ddull gweithredu presennol y Fforwm a’i brif ddyletswyddau gan ganolbwyntio ar rai o brif themâu y cynllun gweithredu.
Soniodd Catrin Lois Jones, “Mae Menter Môn yn falch o allu cynnal brecwast dathlu’r Fforwm yn y Sioe ac yn falch o’r bartneriaeth gadarn sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd isio gwybod mwy am y Fforwm neu waith rhai o’r partneriaid i ymuno hefo ni ar y bore hwnnw. Cyntaf i’r felin fydd y bwyd, felly dewch ddigon buan am sgwrs dros frecwast.”
Mae’r dathliad hwn wedi’i ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).