Fel rhan o brosiect arloesol Larder Cymru, mae Menter Môn yn targedu hyd at 50 o gynhyrchwyr a phroseswyr o bob cwr o’r wlad, ac yn cyflwyno sesiynau mentora a chanllawiau i ymgeiswyr llwyddiannus.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG), mae’r cynllun yn canolbwyntio ar gydlynu a chryfhau cysylltiadau o fewn cadwyni cyflenwi lleol er mwyn gwneud bwyd a diod a gynhyrchir yn rhanbarthol yn gynnig deniadol i gontractau mawr ledled y wlad.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Larder Cymru, Dafydd Jones: “I gyd-fynd â hyn, gall pawb sydd â diddordeb gysylltu â ni am sesiynau un-i-un lle gallwn gynnig arweiniad a chefnogaeth ar amrywiaeth o faterion, o gaffael i farchnata, cadwyni cyflenwi a monitro gwerth cymdeithasol.

“Bydd y sesiynau hyn yn hollbwysig wrth i ni symud ymlaen gan y byddwn yn gallu archwilio sut mae cyfleoedd yn y sector cyhoeddus o fudd i’w sefydliadau, bwrw amcan o’r profiad ac arbenigedd sydd ganddyn nhw a sefydlu camau nesaf allweddol, gan gynnwys cynllun gweithredu, hyfforddiant a cherrig milltir.”

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n gweithio gyda phrynwyr sector cyhoeddus, swyddogion caffael a rheolwyr arlwyo mewn ystod o wahanol sefydliadau i ddeall gofynion eu cadwyn gyflenwi a sut allwn ni bontio’r bwlch ar gyfer cyflenwyr annibynnol.

“Rydyn ni hefyd wrthi’n trafod gyda chyfanwerthwyr ac yn edrych ar sut all busnesau bach ddod at ei gilydd i gael eu cynnwys mewn tendrau ar gyfer cyfleoedd mwy na fyddai wedi bod ar gael iddyn nhw yn y gorffennol.

“Nod cyffredinol y prosiect yw cryfhau cefnogaeth o fewn y gadwyn gyflenwi leol er mwyn gwneud bwyd a diod a gynhyrchir yn lleol yn gynnig deniadol i gontractau cyflenwi mawr.

“Mae’r prosiect hefyd yn edrych ar leihau ôl troed carbon y sector, cynyddu proffidioldeb i fusnesau annibynnol yng Nghymru a gweithio tuag at arena fwy cefnogol a chynaliadwy i gynhyrchwyr a’r sector cyhoeddus.”

Bydd Menter Môn yn parhau i ddarparu prosiectau arloesol wedi’u sbarduno gan y gymuned sy’n cael effaith uniongyrchol ar gymunedau yng Nghymru, yn ôl Dafydd.

“Dyma enghraifft o fenter a fydd yn cael effaith enfawr ar fusnesau bach a chyflenwyr annibynnol yng Nghymru wrth gael effaith fawr yn genedlaethol ar yr un pryd,” meddai.

“Trwy ddatblygu cadwyni cyflenwi byrrach, bydd hyn yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd geisio am gontractau mwy, ni fydd y cynnyrch yn teithio mor bell – gan ddarparu manteision amgylcheddol ac ariannol, yn arbennig o ystyried y cynnydd mewn pris tanwydd – a bydd hyn yn ei dro yn cael sgil-effaith ar gyfer cyflogaeth a diwydiant lleol.

“Rydyn ni’n ychwanegu gwerth trwy weithio gyda busnesau, hyfforddwyr ac achredwyr a chyfeirio’r cyflenwyr at y bobl iawn ar yr adeg iawn, gan sicrhau sianeli cyfathrebu llyfn a bod cynnydd yn cael ei wneud.

“Os yw eu cynhyrchion a’u gwasanaethau yn gweddu i’w gilydd, gallwn roi’r llwyfan gorau iddyn nhw sicrhau contractau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i economïau lleol, yr amgylchedd a chymunedau ledled Cymru am flynyddoedd i ddod.”

Mynychodd Larder Cymru Arddangosfa Arlwyo Sector Cyhoeddus LACA – The School Food People yn ystod yr haf, ynghyd â chwmnïau bwyd blaenllaw Henllan Bakery, Llaeth y Llan, Harlech Foodservice a Plas Farm, gan arddangos eu cynnyrch i brynwyr bwyd yn y sector cyhoeddus cyn cynnal digwyddiadau pellach yn nes ymlaen eleni.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.lardercymru.wales neu anfonwch e-bost at dafydd.jones@mentermon.com. Fel arall, dilynwch @mentermon ar y cyfryngau cymdeithasol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233