Gofynnir am farn y cyhoedd ar gynllun uchelgeisiol i ddatblygu coridor gwyrdd ar gyfer cerdded, beicio a bywyd gwyllt ar Ynys Môn.

Gweledigaeth Grŵp Llywio Glasffordd Môn yw cysylltu Niwbwrch yn y de ac Amlwch yn y gogledd drwy greu llwybr pellter hir sy’n cysylltu cymunedau ar hyd y ffordd. Mae’r llwybr yn ei gyfanrwydd yn cael ei ystyried a gobeithir y bydd yr ymgynghoriad newydd yn gweithredu fel sail ar gyfer ei ddatblygu yn y dyfodol.

Os bydd yn cael ei ddatblygu, bydd yn llwybr tawel ar gyfer teithiau bob dydd, yn dangos tirwedd unigryw’r ynys, ac yn sicrhau bod manteision twristiaeth yn cael eu dosbarthu’n fwy cyfartal ar draws Ynys Môn.  Bydd hefyd yn cynyddu bioamrywiaeth drwy greu, cysylltu ac ymestyn cynefinoedd er mwyn gallu symud bywyd gwyllt.

Menter Môn sydd wedi bod yn arwain y prosiect, gyda chefnogaeth aelodau eraill y Grŵp Llywio, sy’n cynnwys: Cyngor Sir Ynys Môn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.

Eglurodd Dr. Wyn Morgan, Cadeirydd Menter Môn, “Roedden ni wedi cwblhau Lôn Las Cefni bymtheg mlynedd yn ôl ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn.  Mae hwn yn gyfle i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw a sicrhau bod y llwybr yn hygyrch i bobl o bob gallu.  Bydd hefyd yn sicrhau manteision i fywyd gwyllt, gan gynnwys plannu coed, adfer cynefinoedd a gosod gwrychoedd.”

Ychwanegodd ‘Mae Astudiaeth Glasffordd Môn yn nodi’r uchelgais ac yn cynnig sawl prosiect. Fodd bynnag, rydyn ni’n dymuno cynnwys trigolion hefyd, er mwyn meithrin balchder a pherchnogaeth yn y cymunedau y mae’r llwybr yn mynd drwyddyn nhw.  Dyna pam rydyn ni’n cynnal yr ymarfer ymgynghori’.

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi bod yn gysylltiedig ers y dechrau ac mae eisoes yn datblygu un o’r prosiectau yn ne’r ynys, rhwng Pont Marcwis a Niwbwrch. Hefyd, mae gwelliannau wedi cael eu cwblhau’n ddiweddar i lwybr y Lôn Las i’r de o Langefni diolch i Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, deiliad y portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo, wedi croesawu’r broses ymgynghori â’r cyhoedd. Ychwanegodd, “Bydd y prosiect arfaethedig hwn yn arwain at gymysgedd cyffrous o fanteision – yn fwyaf nodedig, bydd yn helpu i wella iechyd a lles trigolion lleol.”

“Bydd yn adnodd pwysig i’n trigolion a’n cymunedau, ond byddai hefyd o fudd i’r sector twristiaeth ar Ynys Môn.  Yn sicr, byddai ganddo’r potensial i ddod â manteision economaidd i nifer o gymunedau yng nghanol a gogledd yr Ynys, fel Llannerch-y-medd ac Amlwch.”

Mae cryn dystiolaeth am y manteision economaidd, iechyd ac amgylcheddol sy’n deillio o’r math hwn o brosiectau.  Mae astudiaethau’n dangos bod yr economi yn cael budd gwerth £13 miliwn am bob £1 miliwn sy’n cael ei wario ar brosiectau cerdded a beicio.  Maent hefyd yn gwella lles, gyda 54% o bobl sy’n beicio i’r gwaith yn teimlo’n hapus ac yn egnïol yn ystod eu taith.

Bydd ymgynghoriad Glasffordd yn cael ei gynnal drwy gydol mis Hydref a gall y cyhoedd ddarllen yr astudiaeth a llenwi’r holiadur drwy fynd i wefan Menter Môn. Bydd cyfle hefyd i drafod y prosiect mewn sesiwn galw heibio yn Neuadd y Dref Llangefni ddydd Mercher, 26 Hydref rhwng 2pm a 6pm.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233