Yr wythnos hon bydd cronfa newydd sbon yn cael ei lansio yng Ngwynedd sydd am roi hwb i gymunedau’r sir gan hyrwyddo cynlluniau llawr gwlad. Y nod yw cynnig cefnogaeth ariannol i endidau wireddu prosiectau er budd cymunedol.

Yn brosiect dan arweiniad Menter Môn gyda chydweithrediad Cymunedoli Cyf. wedi ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae Grymuso Gwynedd yn cynnig cymorth a chyllid o hyd at £10k a £15k tuag at wahanol gynlluniau. Mae disgwyl i bob cynllun greu budd cymunedol gan ddatblygu adnoddau lleol, hyrwyddo’r Gymraeg a hunaniaeth leol a chefnogi gweithgareddau fydd yn elwa’r ardal. Bydd ystyriaeth arbennig ar godi capasiti ledled y sir, o Feirionnydd i Abergwyngregyn.

Mae Betsan Siencyn, rheolwr y prosiect yn egluro: “Rydyn ni’n annog grwpiau a sefydliadau i gysylltu â ni i ddatgan eu diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Byddwn yn rhoi pwyslais ar gynlluniau sy’n disgyn o fewn tair thema benodol, sef dehongli hunaniaeth leol; datblygu gwasanaethau sy’n hybu llesiant pobl; a datblygu asedau cymunedol.”

Bydd staff Menter Môn a Cymunedoli Cyf. yn cynnig cefnogaeth i endidau wireddu eu cynlluniau.

Mae Betsan yn ychwanegu: “Rydym am roi’r siawns gorau i gymunedau ddatblygu datrysiadau eu hunain i’r heriau sy’n eu hwynebu. Rydym yn awyddus iawn i weld ardaloedd sydd heb unrhyw gynhaliaeth bresennol, neu gynhaliaeth isel, yn cyd-weithio â ni i rymuso eu cymunedau, a datrys heriau ar lawr gwlad.”

Mae Menter Môn yn galw ar unrhyw endid sydd â diddordeb gwireddu prosiect er budd cymunedol i gysylltu gyda nhw i drafod eu syniadau. Mae gwybodaeth bellach a manylion ar sut i ymgeisio ar dudalen Grymuso Gwynedd ar wefan Menter Môn, gyda’r cynllun yn annog pobl i ymgeisio ac elwa o’r cyfle cyffrous hwn. Bydd ffenestri ymgeisio bob mis o hyn ymlaen, nes bydd yr holl gyllideb wedi cael ei ddyrannu. Dyddiad cau’r ffenest ymgeisio cyntaf yw’r 8fed o Dachwedd, 2023.

Mae’r prosiect wedi derbyn £1.1m gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan Magnox ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Am fanylion pellach cysylltwch â gwynedd@mentermon.com 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233