Mae Theatr Ieuenctid Môn, un o gynlluniau celfyddydol Menter Môn wedi llwyddo i annog a chyffroi diddordeb plant a phobl ifanc Ynys Môn mewn sawl agwedd o fyd theatr ers ei sefydlu yn 2000.

Eleni bydd y Theatr yn wynebu newidiadau cyffrous, gan gychwyn drwy ganoli’r sesiynau wythnosol i Langefni, a hynny er mwyn dod a holl blant a phobl ifanc 7-18 oed sydd yn chwilio am ddarpariaeth theatr at ei gilydd yn Theatr Fach Llangefni.

Nododd Carwyn Jones, Cadeirydd Pwyllgor Theatr Fach: “Fel Theatr Gymunedol sydd wedi’i harwain gan wirfoddolwyr da ni’n falch iawn o’r cyfle i gydweithio gyda Menter Môn er mwyn datblygu’r ddarpariaeth theatrig sydd ar gael i bobl ifanc yr ynys. Mae gallu cynnig y profiad o berfformio mewn cynhyrchiadau yn y theatr i blant a phobl ifanc yn hynod o bwysig ac yn fraint aruthrol i ni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld hyder a sgiliau’r aelodau yn datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod”.

Bydd y sesiynau wythnosol yn rhoi’r cyfle i’r aelodau gael blas ar weithdai meistr ysgrifennu, perfformio a’r hyn sy’n digwydd gefn llwyfan, yn ogystal â chymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus.

Mae Nia Haf yn un sydd wedi derbyn cyfrifoldeb newydd i gydlynu’r Theatr yn ddiweddar, a dyma oedd ganddi i’w ddweud: “Mae ‘na gynlluniau cŵl ar y gweill – lot o ddosbarthiadau meistr, lot o brofiadau newydd, llwyth o gydweithio – a gobeithio gawn ni dymor cyntaf llawn hwyl a dod i ‘nabod ein gilydd a be ‘da ni isio ei gyflawni dros y flwyddyn nesa! Dwi’n gyffrous iawn bod na gyfle i ni fod yn rhan o banto’r Theatr Fach eleni.

Cyffrous hefyd ydi cael cydweithio hefo stiwdios Aria, a gwneud yn fawr o’r cyfleoedd fedrwn ni gynnig i bobl ifanc yr ynys. O deithiau set Rownd a Rownd i fanteisio ar gysylltiadau creadigol cwmni RONDO, bydd digon yn digwydd. ‘Da ni hefyd mewn trafodaethau hefo sawl grŵp cymunedol lleol arall, felly gwyliwch y gofod – mae Theatr Ieuenctid Môn yn ôl hefo bang!”

Bydd sesiynau TIM Mawr 11-18 oed yn cael eu cynnal rhwng 6-8 ar nos Fawrth a sesiynau TIM Bach 7-11 oed yn cael eu cynnal rhwng 6-8 ar nos Fercher. Cofestra dy ddiddordeb mewn ymuno gyda Theatr Ieuenctid Môn yma: https://forms.office.com/e/V7UtqAW9HT

Mae Theatr Ieuenctid Môn yn brosiect celfyddydol sy’n cael ei arwain gan Menter Môn. Mae’n rhan o becyn ehangach o weithgareddau cymunedol a redir gan y Cwmni, a bydd mwy o wybodaeth am weddill y gweithgarwch yn fuan. Caiff y pecyn gwaith yma ei gyllido trwy gefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a Chyngor Sir Ynys Môn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233