Cafwyd noson anhygoel yn dathlu llwyddiannau busnesau a grwpiau cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn noson Gwobrau Menter Môn. Roedd y gwobrau hyn yn agored i unigolion / busnesau sydd wedi cymryd rhan yn brosiectau SPF a NDA Menter Môn, sef Hwb Menter, Balchder Bro a Grymuso Gwynedd. Roedden yn awyddus i ddathlu eich llwyddiannau chi. O’r ysbryd entrepreneuriaid i’r mentrau llwyddiannus sy’n helpu i wneud Ynys Môn a Gwynedd yn rhagorol.
Cafodd enillwyr bob categori eu gwahodd i noson dathlu yn Galeri ar yr 11eg o Hydref 2024. Cyfle gwych i ddathlu eich cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau a grwpiau eraill.
Hwb Menter
Busnes Newydd y Flwyddyn Gwynedd
Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes yng Ngwynedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf.
Enillydd: Cymro Vintage
Busnes Newydd y Flwyddyn Ynys Môn
Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes ar Ynys Môn o fewn y flwyddyn ddiwethaf
Enillydd: Kico’s Dessert Bar
Rhyfelwr Eco
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod busnesau sydd â chymwysterau gwyrdd. Unai yn fusnes moesegol neu’n gymdeithasol gyfrifol.
Enillydd: Arfon Timber Frames
Arloeswr Arbennig
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod arloeswyr arbennig yng Ngwynedd neu Ynys Môn. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion neu dimau sydd wedi dangos creadigrwydd a gweledigaeth eithriadol, wrth ddatblygu atebion arloesol.
Enillydd: Klaire Tanner
Grymuso Gwynedd
Prosiect Y Flwyddyn
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod grŵp cymunedol neu unigolion sydd wedi rhedeg prosiect llwyddiannus yng Ngwynedd. Prosiect sydd wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yn yr ardal.
Enillydd: Clwb Heli
Menter Newydd Y Flwyddyn Gwynedd
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod llwyddiannau menter newydd unigryw sydd wedi cychwyn yng Ngwynedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf ?
Enillydd: Menter Rabar
Arweinydd Grymusol
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod arweinydd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol yng Ngwynedd.
Enillydd: Dyddgu Williams.
Balchder Bro
Hwb Cymunedol
Pwrpas y wobr hon oedd dathlu llwyddiannau Hwb Cymunedol sy’n galon i’w gymuned yn Ynys Môn . Neuadd bentref, ysgol, clwb chwaraeon, tafarn gymunedol neu unrhyw leoliad tebyg sy’n cynnig hafan i weithgareddau cymunedol yr ardal.
Enillydd: Holyhead Maritime Museum
Arwr Cymunedol
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod holl Unigolyn Ynys Môn sydd methu gwneud digon ar gyfer eu cymuned.
Enillydd: Jude Williams
Mudiad Cymunedol
Pwrpas y wobr oedd dathlu llwyddiannau grŵp o bobl sy’n gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau yn Ynys Môn.
Enillydd: Ffrindiau Llanbedrgoch
Digwyddiad Cymunedol
Pwrpas y wobr yma oedd dathlu llwyddiant digwyddiad sydd wedi digwydd yn Ynys Môn lenni..
Enillydd: Ysgol Henblas
Cafodd y dathliad hwn ei ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).