Menter Môn yn ail-agor ffenest datgan diddordeb yn gwahodd cymunedau i ymgeisio am gymorth i ddathlu Môn
Gyda lansio rhaglen newydd, Balchder Bro yr wythnos hon, mae cyfle i grwpiau ar hyd a lled yr ynys ymgeisio am gefnogaeth ymarferol i hyrwyddo a gwireddu prosiectau cymunedol.
Yn gynllun wedi ei arwain gan Menter Môn, y nod yw rhoi hyder i bobl gyflwyno cynlluniau sy’n dathlu’r hyn sy’n gwneud eu hardal nhw yn unigryw. Wedi ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, fe fydd y pwyslais ar dathlu’r Gymraeg a hunaniaeth Môn trwy gynlluniau all ennyn balchder lleol.
Mae Elen Hughes, newydd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Prosiectau gyda Menter Môn, mae hi’n egluro: “Mae gweithio er budd cymunedau’r ynys wedi bod yn ganolog i weledigaeth Menter Môn ers dros 25 mlynedd. Rhan bwysig o’n cenhadaeth yw dathlu treftadaeth a iaith yr ynys, gan greu ffyniant yn lleol a chydweithio efo trigolion i sicrhau newid sy’n gynaliadwy.
“Ein gobaith gyda’r cynllun hwn felly, yw ysgogi trafodaeth am yr hyn sy’n gwneud pobl yn falch o’u pentref neu eu plwyf nhw, a galluogi cymunedau i wireddu syniadau. Mae gan Menter Môn brofiad sylweddol o weithio ar lefel gymunedol, a’n gobaith yw rhoi’r profiad yma ar waith i helpu gyflawni prosiectau gwerth chweil.”
Mae Elen yn egluro nad oes cyfyngiadau penodol ar y math o brosiect neu weithgaredd all Menter Môn ei gefnogi trwy rhaglen Balchder Bro, ond dylai’r pwyslais fod ar ddathlu hunaniaeth leol. Y gobaith yw y gall digwyddiadau fel Gŵyl Cefni a phrosiectau blaenorol Menter Môn, fel Ein Hanes Ni a Celfi Môn ysbrydoli pobl i feddwl am be all weithio yn eu hardal nhw.
Catrin Jones yw Rheolwr Cynlluniau Iaith a Chymuned ym Menter Môn, mae hi yn ychwanegu: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i grwpiau gwirfoddol, mentrau gymdeithasol neu unigolion i wireddu syniadau sydd ganddynt fydd yn dathlu eu cymuned nhw. Gallwn ddarparu cyngor a chefnogaeth yn ogystal â chymorth ariannol.
“Ein neges yn syml yw, ‘cysylltwch gyda ni’. Rydan ni yn barod i gefnogi a chydweithio gydag unrhyw gymuned ac yn awyddus i dynnu pobl at ei gilydd i ddathlu beth sy’n eu gwneud nhw yn arbennig. O gyngherddau i gelf cyhoeddus ac o erddi cymunedol i weithdai datblygu sgiliau rydyn ni’n barod i sgwrsio ac i helpu.”
Mae gofyn i bobl sydd am wneud cais am gefnogaeth lenwi ffurflen er mwyn datgan eu diddordeb mewn cymryd rhan yn Balchder Bro. Bydd tîm Menter Môn yn cysylltu wedyn i symud y broses yn ei blaen.
Mae’r cynllun wedi derbyn £1.6 trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac mae Menter Môn hefyd yn cydnabod cefnogaeth Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb – Balcher Bro
Cysylltwch gyda sionedmc@mentermon.com am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb.