Diogelwch a pharch sydd ar frig yr agenda wrth i God Ymddygiad newydd y Fenai gael ei lansio ar drothwy gwyliau’r haf.

Gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn, Menter Môn, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon a Rib Ride, nod y cod yw sicrhau bod y Fenai yn ddiogel i bawb, yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt morol lleol.

Y Cynghorydd Carwyn Elias Jones yw deilydd portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Wrth siarad am y cod newydd, dywedodd: “Mae sicrhau diogelwch ar y Fenai yn flaenoriaeth i ni. Mae hwn yn ddarn prysur iawn o ddŵr, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf felly roedden ni’n awyddus i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu cod ymddygiad sydd â rhai negeseuon pwysig ynghylch bod yn gyfrifol ar y dŵr. Gobeithiwn y bydd o fudd ac yn dylanwadu ar ymddygiad pawb sydd am fwynhau amser ar a ger y dŵr. ”
Phill Scott yw perchennog cwmni teithiau cychod antur, Rib Ride, ac fe ychwanegodd: “Rydyn ni allan ar y dŵr bob dydd gyda’n cwsmeriaid sydd bob amser yn rhyfeddu at y bywyd gwyllt a lleoliad y Fenai. Ond mae’n ddarn heriol o ddŵr sydd angen ei drin â pharch – felly rydyn ni’n llwyr gefnogi’r cod newydd hwn ac edrychwn ymlaen at weld y manteision yn y ffordd y mae pobl yn trin y dŵr.”

Mae Sioned Morgan Thomas yn Gyfarwyddwr Prosiect gyda Menter Môn a gydlynodd y gwaith hwn o dan faner eu prosiect FLAG: “Rydyn ni’n awyddus i ddiolch i’r holl bartneriaid am fod mor barod i gyfrannu eu llais a’u profiad wrth i ni ddatblygu’r cod pwysig hwn. Y gobaith yw y bydd yn gwneud y Fenai yn brafiach i bawb ac yn hyrwyddo parch ymhlith yr holl defnyddwyr yn ogystal ag ar gyfer bywyd gwyllt morol sydd mor bwysig yma.”

David John O’Neill, yw Harbwrfeistr Caernarfon, ac meddai: “Rydyn ni’n awyddus iawn i sicrhau dull unedig o reoli mordwyo ar hyd y Fenai, ac wedi bod yn falch o gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i greu’r Cod Ymddygiad hwn. Rydym am ddatblygu ethos o barch rhwng yr holl ddefnyddwyr dŵr a’r amgylchedd, er mwyn sicrhau twf cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Yn ogystal â lansio’r cod ymddygiad, mae’r partneriaid wedi ariannu rhaglen hyfforddi dros wyliau’r haf. Wedi’i leoli ym Mhorth y Wrach ym Mhorthaethwy, bydd hyfforddwr jet ski cymwys wrth law i ddarparu gwybodaeth ac i helpu defnyddwyr jet skis wrth iddynt lansio i’r dŵr. Y gobaith yw y bydd hyn yn atgyfnerthu negeseuon y Cod Ymddygiad ac yn creu amgylchedd diogel i pawb.

Mae’r cod llawn i’w weld yma.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233