Cynllun newydd sbon Menter Môn sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ydi Môn a Menai, fydd yn gweithio i ddatblygu a gwella mannau gwyrdd cymunedol. Mae mannau gwyrdd cymunedol yn ardaloedd o dir sy’n caniatau mynediad i’r cyhoedd. Maent wedi’u gorchuddio gan lystyfiant naturiol gan gynnwys glaswellt, coetir, coed a gwrychoedd. Gellir eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau fel ymarfer corff neu gymdeithasu.

Nod y prosiect yw galluogi cymunedau i drawsnewid eu hardaloedd preswyl lleol i fod yn lleoedd mwy deniadol i fyw, gweithio ac ymweld â nhw.

Trwy gefnogi gwirfoddoli a phobl ifanc trwy’r cynllun Kickstart, mae’r cynllun yn gweithio i gryfhau rhwydweithiau cymunedol a gwella mynediad i gefn gwlad a mannau gwyrdd. Bydd y cynllun yn cefnogi pedair cymuned ar Ynys Môn a dwy yn Arfon, Gwynedd.

Un amcan i’r cynllun Môn a Menai yw galluogi llesiant cymunedol trwy ganolbwyntio ar wirfoddoli a galluogi cymunedau i berchnogi eu mannau cymunedol. Bydd gweithgareddau’r prosiect yn galluogi cymunedau i elwa ar fuddion iechyd corfforol a meddyliol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored. O ffitrwydd i gymdeithasu gyda phobl tebyg i chi, prif bwrpas gwirfoddoli fel hyn yw annog cysylltiad cryfach rhwng yr amgylchedd naturiol a’r ardal leol.

 

 

Fel gweddill cynlluniau amgylcheddol Menter Môn mae prosiect Môn a Menai yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.

Nododd Rosie Frankland sydd yn gweithio fel Swyddog Prosiect i’r cynllun, ‘Dros y flwyddyn ddiwethaf , rydym oll wedi dod yn fwy ymwybodol o’n mannau gwyrdd cymunedol a’u cyfraniad nhw i’n hiechyd a lles. Bwriad y cynllun yw galluogi cymunedau lleol i weithredu er mwyn gwella’r mannau hyn i sicrhau lles presennol ac yn y dyfodol.’

Cafodd y cynllun ei lansio ym mis Awst ac mi fydd yn rhedeg dros gyfnod o ddwy flynedd. Os ydych chi’n unigolyn neu’n rhan o grŵp cymunedol sydd â diddordeb mewn gwella eich mannau gwyrdd cymunedol yna ewch amdani i ymgeisio am gymorth gan y cynllun. Mae cefnogaeth ar gael i gyflawni gwaith gwella’r amgylchedd, gweithgareddau gwirfoddoli a chyhoeddusrwydd.

Mae Catherine Camara sydd yn gweithio fel Swyddog Cymorth i’r prosiect yn edrych ymlaen yn fawr at weithio ar y cynllun: ‘Mae’r cyllid ar gyfer y cynllun newydd ei lansio ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at glywed gan gymunedau sydd â diddordeb. Rydym yn barod iawn i gyd-weithio hefo nhw i ddatblygu eu hardaloedd lleol trwy’r cynllun Môn a Menai.’

Am fwy o wybodaeth ewch i ymweld â gwefan Menter Môn (www.mentermon.com) a dilynwch dudalennau cyfryngau cymdeithasol y prosiect er mwyn derbyn gwybodaeth a diweddariadau. Facebook – Môn a Menai, Trydar – @MenaiMon, Instagram – monamenaimentermon. Er mwyn cofrestru eich diddordeb neu holi am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun a’r gefnogaeth sydd ar gael yna cysylltwch efo’r tîm wrth ebostio monamenai@mentermon.com.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233