Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, mae digwyddiad arlwyo yn cael ei gynnal yn Birmingham sy’n cynnwys arddangosfa o dros 100 o gyflenwyr ac arddangosiadau byw. Ymhlith y cyflenwyr sy’n rhan o’r digwyddiad yma mae prosiect Larder Cymru, Menter Môn.

Mae Larder Cymru yn brosiect newydd gan Menter Môn, yn dilyn prosiect llwyddiannus Môn Larder. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chaffael cyhoeddus y sector bwyd, gan weithio i sicrhau bod cyflenwad bwyd yn lleol a bod y cadwyni cyflenwi mor fyr â phosib.

Nod ymweliad Larder Cymru â’r dangosiad yn Birmingham ydi i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig sydd yn addas ar gyfer eu cyflenwi i’r sector gyhoeddus, ac i greu cysylltiadau â chyflenwyr eraill ar draws y DU.

Dywed Craig Hughes, Rheolwr Prosiect Larder Cymru – “Mae’n gyffrous iawn bod yma yn yr NEC yn Birmingham efo Larder Cymru ar ran Menter Môn i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig. Mae Larder Cymru yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau a chryfhau rhwydweithiau ar draws y Deyrnas Unedig gan ddatblygu dealltwriaeth well o gadwyni cyflenwi y tu allan i Gymru.”

Dafydd Gruffydd ydi Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn – “Un o brif amcanion caffael bwyd a diod ydi gwerth cymdeithasol. Fel cwmni sydd yn gweithredu er budd y gymuned, mae gwerth cymdeithasol yn bwysig iawn i Menter Môn a dydi Larder Cymru’n ddim gwahanol.”

ychwanegodd – “Prif bwrpas y prosiect ydi sicrhau bod caffael cyhoeddus bwyd a diod yn cael ei gadw’n lleol ac mai cynnyrch Cymreig sy’n cael ei ddefnyddio os yn bosib. Canlyniad hyn fyddai cefnogi’r economi leol, cefnogi cynhyrchwyr a ffermwyr Cymreig a gwarchod yr amgylchedd wrth gadw’r cadwyni cyflenwi yn fyrrach. Mae’n wych gweld fod y cynhyrchwyr a’r fferwmyr Cymreig hynny yn cael eu gweld yn y digwyddiad hwn gan gyflenwyr ar draws y DU.”

Mae’r dangosiad arlwyo yn y sector cyhoeddus yn cael ei gynnal dros ddau ddiwrnod (15 + 16 Mawrth) yn adeilad yr NEC yn Birmingham.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233