Hoffai Canolfan Ucheldre a Menter Iaith Môn ddiolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a’r loteri Genedlaethol am nawdd grant ‘Cysylltu â Ffynnu’ i redeg prosiect ‘Creu Heulwen’ yng Nghaergybi.  Dros y flwyddyn nesaf byddant yn darparu gweithdai creadigol o bob math am ddim i gymunedau Caergybi.

Dywedodd Manon Prysor, Partner Creadigol y prosiect; “Bydd y gweithdai cyntaf yn adeiladu at Ŵyl Cybi ddiwedd Gorffennaf gyda chyfleoedd i brofi celf a chrefft, dawns; drymio, creu ffilm, a magu hyder yn eich Cymraeg a bod yn ddwyieithog.   Mae’r cyfan am ddod a heulwen a hwyl greadigol wrth ddod a’r  gymuned at ei gilydd”.

Mae Manon yn brysur yn sgwrsio gyda grwpiau a chwmnïau lleol i weld lle medrir cydweithio ac yn falch iawn o gefnogaeth Môn CF a Teli Môn, pwyllgor Gŵyl Cybi, yr Ysgolion lleol, grwpiau Milbanc a Dechrau’n Dêg a Ffiws Caergybi, (un o gynlluniau Menter Môn). Hoffai Manon, Canolfan Ucheldre a Menter Iaith Môn hefyd ddiolch yn arbennig i griw o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Caergybi am roi dechrau gwych i’r prosiect drwy ddylunio’r logo, a hefyd i siop Little Treasures am gyfrannu crysau T.

Gofynnwyd i grŵp o bobl ifanc blwyddyn 10 o Ysgol Uwchradd Caergybi i ddylunio logo ar gyfer y prosiect drwy gydweithio gyda dylunydd menter Ffiws yn y dre. Dywedodd Nia Sian Cydlynydd Ffiws Môn eu bod yn falch o gydweithio gydag Ucheldre a bod rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn allweddol i’w gwaith. Mae’r bobl ifanc i gyd wedi mwynhau.  O’r chwith Manon Prysor, D Layton, Nicole Walters-Hughes, Alexis McGrath, Courtney Davies, Sara Saddington, Mia Atkinson, Nia Sian ‘Ffiws’, Bobby Smith, Emily Hannah, Jessica Swain.  Bu Karl Jones, Richell Williams Smith ac Abbie Marriott hefyd yn rhan o’r dylunio, a diolch i Sharon Bibby a’r tîm Datblygu Ieuenctid Ardal am eu cefnogaeth

Heddiw rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein logo ar gyfer ‘Creu Heulwen’ ac yn lawnsio ein dalen Facebook ac Instagram.  Dewch draw i’n pabell yn ystod Gŵyl Cybi i fwynhau gweithgareddau creadigol ac i ddweud eich dweud am beth ddylem ei gynnig nesaf. Bydd Manon Prysor, hefyd  allan yn y gymuned yn sgwrsio gyda’r cyhoedd, ac yn casglu eich syniadau. Mae croeso i chi gysylltu gyda hi drwy ganolfan Ucheldre neu drwy ein dalen Facebook Creu Heulwen.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233