Wrth feddwl am Lanberis mae’n debyg eich bod yn dychmygu’r Wyddfa, y chwareli llechi, a’r  trên bach – nid o reidrwydd pentref sydd ar flaen y gad o ran arloesi. Mae Cyngor Gwynedd a Menter Môn yn gobeithio newid hynny.

Fel rhan o brosiect Smart Gwynedd a Môn gan Menter Môn, mae technoleg digidol blaenllaw a ddarperir gan Llywodraeth Cymru wedi cael ei osod yn Llanberis. Bydd hyn yn darparu Wi-Fi am ddim i’r stryd fawr, a bydd hefyd yn agor y drysau i arloesi pellach yn y pentref.

Mae’r Uwch Swyddog Prosiect Kiki Rees-Stavros yn esbonio na ddylai’r Wi-Fi gael ei weld fel gwasanaeth i dwristiaid yn unig, ond fel cyfle i bobl leol.

Drwy ddefnyddio’r un dechnoleg ag archfarchnadoedd a dinasoedd smart ar draws y byd, bydd Llanberis yn gallu monitro lefelau eu hymwelwyr a defnyddio’r data hwn i helpu i wneud i dwristiaeth weithio i’r pentref.

Eglura Emlyn Baillis, Cadeirydd Grŵp Datblygu Llanberis y gall fod yn weithred gydbwyso galed i hyrwyddo twristiaeth wrth sicrhau nad yw trigolion y dref yn teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl.

Mae Jane a Trevor Grove, perchnogion llety Erw Fair, yn credu y gallai defnyddio’r posibiliadau marchnata e-bost a gynigir gan y system Wi-Fi newydd helpu i bontio’r bwlch hwnnw. Yn ogystal â thargedu twristiaid sydd wedi mewngofnodi i’r Wi-Fi i sicrhau bod ymwelwyr yn dychwelyd, gallai creu cylchlythyrau misol i hysbysu pobl leol am yr hyn sy’n digwydd yn y pentref wneud bywyd yn haws i bawb.

‘Bydd yn dda i bobl leol gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd, fel y gallant fod yn barod pan fydd mewnlifiad mawr o dwristiaid. Weithiau bydd ras ymlaen, a dyw’r busnesau ddim hyd yn oed yn gwybod amdani, felly mae silffoedd y siopau’n wag!’

Gallai’r dechnoleg hefyd arwain at redeg gwasanaethau’n fwy effeithlon ar hyd a lled y pentref, a allai helpu i leddfu rhywfaint o bwysau gor-dwristiaeth.

Gan ddefnyddio’r seilwaith sydd bellach yn ei le fel y ‘blociau adeiladu’ gellir ychwanegu unrhyw nifer o synwyryddion at y rhwydwaith er mwyn casglu mwy o ddata. Yna gellir cyflwyno’r data hwn i’r cyngor ac i wneuthurwyr penderfyniadau eraill i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Enghraifft o hyn fyddai gosod synwyryddion ym miniau’r pentref. Byddai hyn nid yn unig yn rhybuddio gweithwyr cyngor pan fydd y biniau’n llawn, gan eu helpu i leihau allyriadau carbon o gasgliadau diangen, ond byddai’r data hefyd yn helpu i nodi meysydd lle gallai fod angen mwy o finiau, a fyddai’n helpu i leihau sbwriel.

Mae’r Cynghorydd Sir Kim Jones yn gobeithio y bydd y dref hefyd yn gallu casglu data er mwyn rheoli parcio’r dref yn well a defnyddio’r system Wi-Fi i annog twristiaid i barcio mewn ardaloedd dynodedig.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Menter Môn i helpu i ddatblygu Llanberis, i wella’r profiad i dwristiaid ond hefyd i ni fel pobl leol” ychwanega “Bydd hefyd yn caniatáu i ni fel cymuned brofi llwyddiant ein digwyddiadau.”

Fodd bynnag, bydd datblygiad Llanberis fel pentref smart yn dibynnu ar fewnbwn ei drigolion, a bydd Menter Môn yn cynnal gweithdy agored i ymgynghori â pherchnogion busnes, trigolion, a rhanddeiliaid allweddol ar ddydd Mercher 19eg o Hydref yn y ganolfan gymunedol, o 17:30- 19:30.

Cofrestru trwy Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/415201548007

Mae Gwynedd Glyfar a Môn yn datblygu lleoedd clyfar ar hyd a lled Gwynedd ac Ynys Môn. Am fwy o wybodaeth ewch i https://linktr.ee/SmartGwyneddaMon


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233