Yn dilyn penwythnos o amharu yn sgil storm Darragh, daeth disgyblion dwy o ysgolion uwchradd Môn at ei gilydd yn Ljangefni yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd arbennig i drafod effaith newid hinsawdd yn lleol. Roedd y digwyddiad yn rhoi cyfle i bobl ifanc i leisio eu pryderon ac i gynnig atebion i rai o’r heriau ddaw yn sgil newidiadau a digwyddiadau tywydd eithafol.
Wedi ei threfnu gan Menter Môn fel rhan o ‘Sgwrs Hinsawdd’ Llywodraeth Cymru, roedd y gynhadledd yn cydnabod yr angen am weithredu brys a rôl allweddol y genhedlaeth nesaf wrth ymateb i heriau amgylcheddol. Y cyflwynydd poblogaidd, Ameer Davies-Rana oedd yn hwyluso’r digwyddiad gyda chyfraniadau gan arbenigwyr yn cynnwys Dr Eifiona Lane o Brifysgol Bangor a swyddogion Menter Môn.
Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, dywedodd: “Mae’n hanfodol bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed mewn trafodaethau mor bwysig â hyn. Mae’r gynhadledd yma yn gyfle i rannu syniadau, i ddysgu gan arbenigwyr, a chreu gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
“Fel cwmni rydyn ni’n gwneud llawer o waith yn y maes amgylcheddol, gan weithio gyda chymunedau i gynnal gwarchodfeydd natur a chynefinoedd rhywogaethau prin. Rydym hefyd yn datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy arloesol, sy’n cynnwys cynllun ynni llanw Morlais i gynhyrchu trydan glân a Hwb Hydrogen Caergybi sydd â’r nod o gynhyrchu tanwydd di-garbon.
“Mae gan yr ynys rinweddau naturiol unigryw sydd o dan fygythiad oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys newid hinsawdd. Trwy gynnal digwyddiadau fel hyn a pharhau i gefnogi ac annog gweithredu ein gobaith yw gallu chwarae rhan fechan yn y datrysiad a chael effaith gadarnhaol i’r dyfodol. “
Nod Sgwrs Hinsawdd Llywodraeth Cymru yw annog trafodaethau lleol am effaith newid hinsawdd a cheisio darganfod ffyrdd newydd o addasu. Yn un o gyfres, bydd y digwyddiad yn Llangefni yn cyfrannu lleisiau lleol i drafodaeth ehangach fydd yn y pendraw yn llywio sut bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio ac yn sicrhau bod camau gweithredu yn ystyried anghenion cymunedau ar draws Cymru.