Yn ddiweddar cafodd Menter Môn y fraint o groeswau Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Water AS yn ystod ei ymweliad â Gogledd Cymru. Roedd yn gyfle gwych i drafod amrywiaeth y gwaith sydd yn cael ei wneud o fewn Menter Môn a’r potensial sydd gan y cynlluniau i’w gynnig i ogledd Cymru ac o fewn rhai cynlluniau i Gymru gyfan.

Cafwyd cyflwyniadau ar nifer o gynlluniau o fewn y cwmni. O Morlais, i Tech Tyfu, i Llwyddo’n Lleol mae yna gymaint o amrywiaeth i’r prosiectau – roedd hi’n gwych gweld ei werthfawrogiad o’r gwaith.

Roedd yn gyfle iddo ddysgu am y portffolio Agri-tech ac i weld yr hwb arloesedd newydd sydd gan y tîm yn M-Sparc. Siaradodd Luke Tyler, Rheolwr Tech Tyfu am fanteision y cnydau oedd yn cael eu ffermio’n fertigol yn yr hwb. Soniodd hefyd am wahanol elfennau o’r portffolio Bwyd ac Amaeth o fewn Menter Môn a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gwtogi’r gadwyn gyflewni a chyfrannu at yr economi leol.

Bu Sion a Sara o gynllun Swyddogion Stori, Llwyddo’n Lleol 2050 hefyd yn rhoi trosolwg o’u profiadau nhw a sut mae Menter Môn wedi eu cynorthwyo nhw i lwyddo’n lleol.

Nododd Sara Dylan, ennilydd y cohort Swyddogion Stori: “Er fy mod i’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Llwyddo’n Lleol a Menter Môn wedi dangos i mi ei bod hi’n bosib i mi hefyd lwyddo’n lleol yng Ngogledd Cymru ac mae o wedi bod yn gyfle i mi wneud cysylltiadau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae’r Dirprwy Weinidog wastad wedi dangos wir ddiddordeb yn ein gwaith ni, yn enwedig ein prosiectau Digidol, ynni adnewyddadwy a Bwyd Amaeth. Roedd hwn yn gyfle iddo gael gwell dealltwriaeth o’r ffordd mae’n prosiectau ni yn cyfrannu at y rhanbarth ac yn gyfle iddo gyfarfod y staff sydd yn gweithio mor galed ar y cynlluniau.”

Mae’r amrywiaeth o gynlluniau sydd yn dod o dan ymbarel Menter Môn yn eu gwneud nhw’n unigryw ac mae’r arloesedd sydd y tu ôl i’r cynlluniau hyn yn golygu eu bod nhw’n gweithio i ddatrys heriau sydd yn poeni cefn gwlad Cymru. Mae’r ffordd mae’r cynlluniau hyn yn plethu gyda’u gilydd yn eu gwneud nhw’n gryfach ac yn fwy hyblyg i ddatrys heriau mewn gwahanol ffyrdd.

Dyma oedd gan Lee Waters AS i’w ddweud: “Mae Menter Môn wastad yn creu argraff arna i, gyda’u hegni a’u dyfeisgarwch. Rwyf wastad yn cael fy rhyfeddu gyda’r amrywiaeth o waith maen nhw’n ei wneud. Fyddai hi mor braf pe bai gan bob cymuned yng Nghymru rywbeth tebyg iddyn nhw. Dwi wedi bod yn gweithio gyda nhw am bron i dair blynedd ar amrywiaeth o gynlluniau, ac roedd hi mor braf i gael cyfarfod y criw sydd yn gweithio mor galed ar y cynlluniau hyn. Dwi wir yn cael fy ysbrydoli gan eu gwaith a’u hymrywmiad.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233