Mae Menter Môn yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’u Bwrdd Cyfarwyddwyr.
Fel Menter gymdeithasol sydd yn gweithredu mewn nifer o feysydd mae’r cwmni yn adnabod yr angen dros gael amrywiaeth o aelodau ar y bwrdd er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach.
Dr Wyn Morgan ydi cadeirydd presennol y Bwrdd ac mae’n pwysleisio yr angen i benodi aelodau newydd:
“Dwi wedi bod yn aelod o’r Bwrdd ers 10 mlynedd a dwi wedi mwynhau’r profiad yn fawr. Mae cael cyfrannu at lwyddiant cwmni sydd yn gweithio er budd y gymuned yn anrhydedd.
Wrth edrych ymlaen mae’n bwysig ein bod ni’n cael aelodau newydd sy’n adlewyrchu y bobl a’r cymunedau mae’r cwmni yn eu gwasanaethu.”
Ychwanegodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Mae’r galw yma am aelodau newydd yn dod ar gyfnod cyffrous iawn i’r cwmni wrth i gynlluniau dyfu ac wrth i fwy o staff gael eu cyflogi.
Erbyn hyn mae’r cwmni yn cyflogi dros 70 o staff gydag ystod eang o amrediad mewn oedran ac amrywiaeth o ran rhyw.
Byddai’n braf gallu adlewyrchu’r amrywiaeth yma o fewn y Bwrdd gydag aelodau yn dod â sgiliau a phrofiadau amrywiol i’r Bwrdd.”
Mae bod yn aelod o fwrdd Menter Môn yn gyfle i rannu eich syniadau a lleisio eich barn ar benderfyniadau sydd yn effeithio cymunedau gwledig Cymru, Môn a Gwynedd yn benodol.
Dyma gyfle i roi yn ôl i’ch ardaloedd lleol gan sicrhau cymunedau llewyrchus nawr ac yn y dyfodol.
Yn benodol mae Menter Môn yn galw ar fwy o bobl ifanc, merched a phobl o Wynedd yn ogystal â Môn i ymuno â’r Bwrdd. Yn ychwanegol i’r categorïau hyn, mae’r cwmni yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir.
Mae’r pecyn gwybodaeth a’r ffurflen gais er mwyn ymgeisio i fod yn aelod o’r bwrdd ar gael ar www.mentermon.com.