Gyda phrisiau gwlân Cymru yn cyrraedd lefel is nag erioed y tymor hwn, mae prosiect wedi ei lansio gan fenter gymdeithasol yn Ynys Môn i ychwanegu gwerth at yr adnodd naturiol yma.

Bydd y cynllun ‘Gwnaed a Gwlân’ sy’n cael ei redeg gan Menter Môn yn dod a phartneriaid o bob cwr o’r wlad ynghyd i wireddu potensial gwlân fel adnodd cynaliadwy ac adnewyddadwy.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn ac mae’n croesawu lansiad y cynllun hwn. Meddai: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid i adeiladu ar ein hymchwil sydd yn dangos bod yna wir botensial i’r sector yma a’i hunaniaeth Gymreig.”

Ychwanegodd: “Gyda’i rinweddau unigryw a’r ffaith ei fod yn adnodd sydd yn fioddiraddadwy, mae gwlân yn cynnig ei hun i gael ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd ac fel rhan o wahanol gynnyrch. Yma ym Menter Môn rydym yn barod wedi dechrau arbrofi gyda gwlân fel rhan o’n cynlluniau eraill, gan gynnwys Tech Tyfu am ei fod yn dal dŵr cystal. Yn y dyfodol, ymysg cynlluniau eraill rydym yn gobeithio ei ddefnyddio fel ynyswr ar gyfer ein pecynnau bwyd i’r sector hunan arlwyo.”

 

 

 

Medd Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: “Rwy’n falch iawn o weld bod cyllid gan y Cynllun Datblygu Gwledig yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r prosiect pwysig yma gan Menter Môn.”

“Mae gwlân yn adnodd naturiol, yr ydym yn ffodus iawn ohono yng Nghymru, ac mae’n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o fanteisio ar ei botensial er budd ffermwyr a’r gymuned ehangach.”

“Mae’n bosib defnyddio gwlân naturiol mewn nifer o ffyrdd, ac rwy’n gobeithio mai canlyniad y prosiect yma fydd y defnydd o wlân mewn ffyrdd arloesol a chynhyrchiol.”

Nododd Gareth Jones, Pennaeth Marchnata Cynhyrchwyr British Wool: “Mae British Wool yn edrych ymlaen at weithio gyda Menter Môn a’r sector gwlân yng Nghymru ar y cynllun Gwnaed a Gwlân. Wrth fod yn bartner ar y cynllun, mae hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n arbenigedd o fewn y sector i wneud cyfraniad cadarnhaol wrth adnabod cyfleoedd i gefnogi’r cynhyrchwyr a’r sector gwlân yng Nghymru.”

Mae lansiad Gwnaed a Gwlân yn dilyn ymchwil gan Arloesi Gwynedd Wledig o fewn Menter Môn oedd yn canolbwyntio ar gyflwr presennol a photensial gwlân yng Ngwynedd. Wrth i’r cynllun ddatblygu mae Menter Môn yn bwriadu defnyddio arbenigedd cynlluniau eraill o fewn y cwmni gan gynnwys cymorth busnes gan yr Hwb Menter a nifer o gynlluniau LEADER eraill.

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020’, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233