Dros yr haf, bu 10 o bobl ifanc yn gweithio fel Swyddogion Marchnata i fusnesau lleol trwy brosiect Llwyddo’n Lleol 2050, Menter Môn. Roedd yn gyfle i bobl ifanc, lleol a thalentog i ddatblygu sgiliau, magu hyder a chreu cysylltiadau gwerthfawr. Ers i’r cynllun ddod i ben mae ambell i fusnes wedi cadw cysylltiad gyda’r bobl ifanc, gyda rhai wedi derbyn cyfleoedd gwaith ac eraill yn cydweithio ar brosiectau newydd.

Un o’r bobl ifanc hyn yw Josh Jones o Langefni. Fel rhan o’r prosiect, roedd yn gweithio fel Swyddog Marchnata ar gyfer busnes iechyd a lles lleol, Celtic Wellbeing sydd wedi’i leoli ym Mryn Du, Ynys Môn. Yn ystod y rhaglen bu Josh yn helpu i farchnata cynnyrch y busnes a chysylltu â darpar ddosbarthwyr. Ar ddiwedd y cyfnod o ddeg wythnos, bu Josh yn ddigon ffodus i dderbyn rôl llawn amser fel Cynorthwyydd Marchnata i’r busnes.

Nododd Josh, “Mae’r profiad o weithio gyda Celtic Wellbeing a’r sesiynau wythnosol gan Llwyddo‘n Lleol wedi bod yn gyfle i mi ddysgu sgiliau defnyddiol fel brandio, strategaethau marchnata a sut i gyfathrebu rhwng busnesau a chwsmeriaid. Mae cael fy nghyflwyno i’r busnes wedi bod yn gyfle gwych a dwi’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw”.

Bydd Lois Eckley o Borthmadog yn parhau i dderbyn cefnogaeth trwy Llwyddo’n Lleol gan ei bod wedi derbyn swydd ran-amser fel Cynorthwyydd Cyfathrebu a Chyswllt Cleientiaid ar gyfer gwasanaeth iaith Gymraeg, Ateb sydd wedi ei leoli ym Mhorthaethwy. Bydd Lois yn defnyddio ei sgiliau marchnata dros gyfnod o 3 mis, gan hyrwyddo Ateb fel gwasanaeth trwy gyfryngau cymdeithasol, cynnal ymchwil i’r farchnad a chyfathrebu â chleientiaid.

Yn ogystal â chyfleoedd gwaith bu cydweithio cyffrous hefyd. Gofynnwyd i Jodie Thomas, un o’r swyddogion marchnata ifanc sydd hefyd yn berchen ar ei busnes ei hun Charismatic Cat, i greu set o dryledwyr yn arbennig ar gyfer Shed Neigwl. Mae’r rhain yn cael eu gwerthu yn siop Shed Neigwl ym Mynytho ac maent wedi bod yn hynod boblogaidd ers lansio. Mae Sion Owen a Sara Dylan hefyd wedi parhau i fod mewn cysylltiad â’u busnesau ac yn parhau i gynorthwyo gyda’u marchnata.

Mae’r prosiect hwn wedi llwyddo i greu cyfleoedd gwaith a pherthnasau gwerthfawr yn yr ardal leol. Mae cael pobl ifanc i weithio a rhannu eu sgiliau yn eu cymunedau lleol yn arwain at fuddion i’r economi, yr iaith Gymraeg, a bydd yn helpu i greu cyfleoedd pellach yn y dyfodol. Wrth i’r bobl ifanc a’r busnesau hyn barhau i weithio gyda’i gilydd, edrychwn ymlaen at weld mwy fyth o lwyddiant lleol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233