Mae Menter Môn yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cysylltiad band eang cyflym i’r 5% o ardaloedd sydd ar ôl.

Darparu cysylltiad ffeibr optig fydd yr opsiwn cyntaf i gael ei dreialu gan y cynllun. Bydd hyn yn golygu cysylltiad cynt o lawer na’r hyn sy’n cael ei ddarparu yn yr ardaloedd ar hyn o bryd trwy’r gwifrau copr.

Bydd cysylltiad band eang yn cryfhau pa mor gysylltiedig yw cymunedau gan alluogi mwy o bobl i weithio o adref neu i wylio rhaglenni ar alw, ar-lein. Yn y pen draw bydd cysylltiad gwifrau copr fel sydd yn yr ardaloedd hyn yn dod i ben, felly pa adeg well i sicrhau cysylltiad band eang na gyda chymorth Menter Môn?

Nododd Tomos Jones, Rheolwr Prosiectau Arloesedd Digidol Menter Môn: “Mae cysylltiad band eang cyflym yn dod yn bwysicach bob dydd, yn enwedig wrth gadw teuluoedd a ffrindiau yn gysylltiedig. Yn ogystal â chynnig gwell mynediad i’r rhyngrwyd, mae cysylltiad band eang cyflym yn cael ei ystyried fel bod yn opsiwn mwy dibynadwy yn y dyfodol. Mae Menter Môn yn gweithio yn barhaus gyda chymunedau yng Ngwynedd a Môn i sicrhau bod y gwasanaeth yma ar gael i bawb.”

William Adams ydi’r swyddog o fewn Menter Môn sydd yn gweithio ar y cynllun ac mae o’n gweithio gyda’r ardaloedd hyn er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth wrth ddod o hyd i’r ffynhonell orau o gysylltiad band eang cyflym.

Rhai o’r posibiliadau hyn sydd ar gael ydi: gwifrau ffeibr optig, Llwybrydd 4G neu Starlink. Mae’r holl opsiynau hyn yn cael eu cynnig er mwyn sicrhau bod pob ardal yn derbyn yr un cysylltiad band eang yn y pen draw.

Er mwyn derbyn cysylltiad band eang ffeibr optig yn eich ardal chi mae angen i chi gofrestru eich talebau ar wefan Openreach trwy ddilyn y ddolen yma: https://www.openreach.com/.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â William Adams, Menter Môn – 07376431447 / william@mentermon.com.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233