Egin Cegin yn cefnogi busnesau lleol i gynnal nosweithiau tecawe pop-yp.

Yr wythnos diwethaf, mi wnaeth dau fusnes lleol Deli Thai a Coconut Kitchen ddod at ei gilydd yn Egin Cegin i gynnal pop-yp tecawe bwyd Thai hynod o lwyddiannus, ble wnaethom weini dros 300 o brydau dros bedair noson.

Mae Egin Cegin yn uned cegin diwydiannol fodern gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol, sydd ar gael i unrhyw un, unai yn unigolion, busnesau, ysgolion, colegau neu grwpiau cymunedol yw defnyddio, sydd wedi ei leoli ym Motwnnog, ym Mhen Llyn.

Dywedodd Paul Withington, Cyfarwyddwr Coconut Kitchen: “Cawsom bedair noson hynod o brysur yn ein pop-yp yn Egin Gegin. Roedd y maes parcio yn help hefyd gan ei fod yn ddelfrydol i gwsmeriaid ddod yno i gasglu eu bwyd, roedden ni bron fel drive thru ar adegau!

Roedd y gefnogaeth a gawsom gan Lucinda (Lucinda Stewart – Swyddog Cefnogol Egin Cegin a Ffiws), Darren (Darren Morley – Rheolwr Canolfan Fenter Congl Meinciau) a Rhys (Rhys Gwilym – Uwch Swyddog Prosiect Menter Môn) yn anhygoel hefyd i gael y cyfleuster yn barod ac am helpu gyda hyrwyddo’r digwyddiad yn lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn bendant yn argymell unrhyw fusnes bwyd bach i gysylltu â defnyddio’r gegin i brofi unrhyw syniadau, paratoi neu ddatblygu ryseitiau newydd neu wneud noson pop-yp hefyd.”

Ychwanegodd, Nan – Deli Thai: “Cawsom amser gwych yn Egin Cegin, mae’r gegin yn ddelfrydol ac mae’r offer a ddarparwyd o ansawdd da iawn ac wedi ein helpu i baratoi, coginio a gweini’r cwsmeriaid yn hawdd iawn. Roeddem ni mor brysur hefyd, ac wrth ein bodda! ”

Rhys Gwilym, yw’r uwch Swyddog prosiect sy’n arwain ar y prosiect, dywedodd: “Mae’n wych gweld adnodd cymunedol fel Egin Cegin yn cael ei ddefnyddio gan ddau fusnes lleol, a braf oedd gweld fod nifer o bobl leol ac ymwelwyr wedi cefnogi. Mae cael ased fel Egin Cegin yma ym Motwnnog yn golygu y gall busnesau arlwyo ei ddefnyddio i gynnal tecawe neu i gynhyrchu stoc, yn ogystal ag unigolion sydd yn meddwl cychwyn busnes arlwyo ac sydd yn chwilio am leoliad pwrpasol i arbrofi.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.  Caiff hefyd ei ran gyllido gan Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd

Rydym yn awyddus i unrhyw un, unai yn fusnes neu’n unigolyn sydd â diddordeb defnyddio cyfleusterau Egin Cegin er mwyn cynnal nosweithiau pop-yp, arbrofi neu i gynhyrchu stoc i gysylltu ag Arloesi Gwynedd Wledig – gwynedd@mentermon.com


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233